Sylfaen mewn Agronomeg (Amaethyddiaeth a Llysiau) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
Mae Agronomeg yn darparu gwybodaeth amaethyddol i ffermwyr am sut i dyfu a gofalu am blanhigion a phriddoedd mewn amgylcheddau penodol. Mae ffactorau megis hinsawdd, gwreiddiau, lleithder, chwyn, plâu, ffyngau ac erydiad i gyd yn gallu peri heriau arwyddocaol wrth i ffermwyr geisio cynhyrchu cynhaeaf toreithiog.
O’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a hyder o fewn pwnc agronomeg ac wedi iddynt gwblhau’n llwyddiannus gallai dysgwyr fynd ymlaen i gyflawni cymwysterau BASIS pellach.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
£1,249 (Cyllid ReAct+ ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Cwmpesir amrywiaeth o bynciau yn y cwrs hwn er mwyn cyflwyno dysgwyr i agronomeg. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu cnydau, chwyn, plâu, clefydau, maetheg pridd a chnydau, cemegau amddiffyn planhigion a chynhyrchion gwrtaith a diogelu pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd.
Mae’r cwrs Sylfaen BASIS hwn mewn Agronomeg yn gweddu’n ddelfrydol i ddysgwyr sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd mewn agronomeg a chynhyrchu cnydau, yn benodol y rheiny sydd â phrofiad blaenorol cyfyngedig. Yn ogystal gall y cwrs hwn weithredu fel ‘carreg sarn’ tuag at gyrsiau BASIS manylach.
Gallai dysgwyr ddefnyddio’r cwrs hwn fel ‘carreg sarn’ i gyrsiau BASIS manylach unwaith eu bod wedi ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.