Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
2 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

Gallai pobl sy’n defnyddio plaladdwyr, pobl sydd o gwmpas a’r amgylchedd gael eu niweidio gan ddefnydd anniogel o blaladdwyr. Gallai amlygiad i grynodiadau plaladdwyr neu anwedd yn ymledu yn yr awyr gael effeithiau negyddol difrifol. Rhaid i’r rheiny sy’n gweithio gyda phlaladdwyr wybod a dilyn arferion diogel er mwyn lleihau’r risgiau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

£300 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Nod y cwrs hwn yw ennill cymhwysedd ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn ddiogel gan ddefnyddio hyfforddiant theori seiliedig yn yr ystafell ddosbarth. Er mwyn gwneud hyn cwmpesir amrywiaeth o bynciau gan gynnwys deddfwriaeth, dehongli labeli a llenyddiaeth cynhyrchion, diogelwch personol, storio plaladdwyr, gwaredu plaladdwyr a golchiadau sy’n ormodol nas defnyddiwyd, delio gyda halogiadau a chadw cofnodion.

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r gwaith a’r rheiny sydd eisoes wedi ymsefydlu mewn rôl yn seiliedig ar ddefnyddio plaladdwyr, trwy ymgymryd â’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn defnyddio a chwistrellu plaladdwyr yn ddiogel.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli.

Gall dysgwyr symud ymlaen i unedau pellach unwaith eu bod wedi ennill tystysgrif gwblhau ar y cwrs hwn.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau