Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
Mae’r llif gadwyn yn un o’r offer mwyaf defnyddiol a phwerus a ddefnyddir ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Fodd bynnag mae hefyd yn un o’r mwyaf peryglus. Mae’r cwrs hwn yn helpu dysgwyr i adeiladu ar eu sgiliau a’u profiad. Hefyd mae’n galluogi dysgwyr i brofi eu harbenigedd mewn maes hanfodol o waith coedwigaeth a choedyddiaeth.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£475 (Cyllid ReAct+ ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu gwaith cynnal a chadw rheolaidd gweithredwr sy’n ofynnol ar gyfer llifiau cadwyn petrol-yredig dan amodau gweithdy a maes, gan gynnwys gweithdrefnau tanio a gwiriadau cyn gweithio a thrawslifio. Yn ogystal yn y cwrs hwn cwmpesir sut i adnabod, archwilio a sylwi ar rannau allweddol y llif gadwyn, sut i baratoi’r llif gadwyn i weithio’n ddiogel heb risg i’r gweithredwr, i bobl eraill neu’r amgylchedd.
Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o sut i gyflawni gwaith cynnal a chadw arferol dyddiol ar y llif gadwyn, sut i weithredu’r llif gadwyn yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gyfforddus yn unol â’r asesiad risg ymarferol. Hefyd, sut i weithredu’r llif gadwyn i weithio’n ddiogel heb risg i’r gweithredwr, i bobl eraill neu’r amgylchedd, a sut i nodi’r asesiad risg a gweithdrefnau brys ar safle gwaith.
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer pobl sydd am ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau ac sydd angen prawf o gymhwysedd o fewn eu maes arbenigedd. Does dim ots os ydynt yn cychwyn mewn lle gwaith neu os ydynt eisoes wedi ymsefydlu mewn rôl. Efallai bod dysgwyr eisoes yn defnyddio eu sgiliau ar draws ystod o weithrediadau coed a phren, fodd bynnag, bydd y cymhwyster hwn yn eu galluogi i ddod yn weithwyr mwy hyderus sy’n bodloni safonau cyfredol arfer gwaith da.
Gallai dysgwyr symud ymlaen i fodiwlau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.