Skip page header and navigation

ATV Eistedd Arno (Nofis) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
1 Diwrnod

Mae cerbydau aml dirwedd eistedd arnynt (ATVs) yn beiriannau sydd ag amryw o bwrpasau. Golyga eu hyblygrwydd y gallant weithio gydag ystod o atodiadau, gan gynnwys trelars, chwistrellwyr a thaenwyr. Mae hynny’n eu gwneud yn boblogaidd gyda llawer o fusnesau amaethyddol. Fodd bynnag, daw’r poblogrwydd hwnnw â’r potensial o berygl a heb hyfforddiant priodol gall damweiniau difrifol ddigwydd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

£400

Disgrifiad o'r Rhaglen

Cwmpesir llawer o bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys llawlyfr y gwneuthurwr, dillad amddiffynnol, trawsyriant a gyriannau, rheolyddion ac offer, gwiriadau dyddiol, gweithdrefn tanio a stopio, llywio, asesu risg, sefyllfaoedd gyrru cymhleth, cyfyngiadau tynnu a chapasiti llwytho i enwi ond ychydig.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o waith theori a gwaith ymarferol, gan ddechrau wrth edrych yn fanwl ar faterion iechyd a diogelwch allweddol. Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu am agweddau manwl ar gynllunio llwybr ac yn deall yn union beth gall y cerbyd ei wneud a bydd sesiwn ymarferol yn dilyn. Bydd dysgwyr yn cael eu haddysgu am fanwfrau sylfaenol a sut i reoli beic ar dir gwahanol a heriol. Eir ati i ymdrin â gweithredu’r cerbyd gyda llwythi a threlars hefyd.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl sydd am ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau ac sydd angen prawf o gymhwysedd o fewn eu maes arbenigedd.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau