Skip page header and navigation

Prentisiaethau Peirianneg Ar Dir (Lefel 2, Lefel 3)

  • Campws y Gelli Aur
Lefel 2: 12 i 24 mis. Lefel 3: 18 mis

Mae’r prentisiaethau hyn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn peirianneg ar dir, gan gynnig profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith. Wedi’u hanelu at unigolion dros 16 oed, mae’r rhaglenni hyn yn galluogi dysgwyr i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu.

Mae’r diwydiant peirianneg ar dir yn cwmpasu ystod eang o gerbydau a pheiriannau arbenigol a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, gofal daear, a pheiriannau sefydlog. Disgwylir i gyflogwyr gynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar, gan ofyn am wybodaeth dda o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae meysydd allweddol yn cynnwys peiriannau amaethyddol (e.e. tractorau, peiriannau cynaeafu, beiciau cwad), peiriannau gofal daear (e.e. peiriannau torri gwair, torwyr prysgwydd), peiriannau coedwigaeth/coedyddiaeth (e.e. peiriannau cynaeafu coed, llifiau cadwyn), peiriannau sefydlog (e.e. cyfarpar prosesu grawn/cnydau, offer godro), ac offer pŵer (e.e. generaduron, pympiau dŵr). Mae prentisiaethau mewn peirianneg ar dir yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac yn darparu llwybrau gyrfaol, gan sicrhau hyfywedd a thwf y diwydiant yn y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
Lefel 2: 12 i 24 mis. Lefel 3: 18 mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Monitro a Chynnal a Chadw Iechyd a Diogelwch mewn Ardal Waith Peirianneg Ar Dir
  • Gwneud gwaith Gwasanaethu a Chynnal a Chadw ar Gyfarpar Ar Dir
  • Gwasanaethu ac Atgyweirio Injans a Chydrannau 
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Cyflawni Prosesau Uno Thermol
  • Gwasanaethu ac Atgyweirio Injans a Chydrannau 

Cynnal a Chadw Systemau Monitro a Rheoli Electronig ar Gyfarpar Ar Dir

Lefel 2
  • Galluogi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 
Lefel 3 
  • Paratoi dysgwyr ar gyfer rolau uwch megis Technegydd Diagnostig neu Oruchwyliwr Gweithdy, gyda chyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant pellach o fewn y diwydiant.
Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Monitro a Chynnal a Chadw Iechyd a Diogelwch mewn Ardal Waith Peirianneg Ar Dir
  • Gwneud gwaith Gwasanaethu a Chynnal a Chadw ar Gyfarpar Ar Dir
  • Gwasanaethu ac Atgyweirio Injans a Chydrannau 
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Cyflawni Prosesau Uno Thermol
  • Gwasanaethu ac Atgyweirio Injans a Chydrannau 
  • Cynnal a Chadw Systemau Monitro a Rheoli Electronig ar Gyfarpar Ar Dir
  • Asesiadau sgiliau ymarferol yn y gweithle
  • Cwblhau cardiau jobsys fel tystiolaeth o weithgareddau yn y gweithle 
  • Gwaith cwrs, cwestiynau ysgrifenedig a llafar
  • Arsylwadau a thystiolaeth seiliedig ar waith 
  • Asesiadau rheolaidd gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr
  • Efallai y bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu a’u cyfarpar personol eu hun. 
  • Costau posibl ar gyfer ymweliadau addysgol a drefnir gan yr adran 
Lefel 2:
  • Does dim gofynion mynediad penodol, ond mae profiad blaenorol a sgiliau ymarferol mewn peirianneg ar dir yn fanteisiol.
  • Gradd G o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg a Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Lefel 3:
  • Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Profiad ymarferol yn y diwydiant 
  • O leiaf pum mlynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant
  • 5 TGAU (A-C) neu gymwysterau Safon Uwch

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau