Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel Gan Ddefnyddio Offer Llaw (PA6) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

Gallai pobl sy’n defnyddio plaladdwyr, pobl sydd o gwmpas a’r amgylchedd gael eu niweidio gan ddefnydd anniogel o blaladdwyr. Gallai amlygiad i grynodiadau plaladdwyr neu anwedd yn ymledu yn yr awyr gael effeithiau negyddol difrifol. Mae plaladdwyr, er eu bod yn sylweddau a allai fod yn niweidiol, yn llwyddiannus iawn a chânt eu defnyddio’n helaeth mewn diwydiannau ar-dir. Oherwydd eu natur niweidiol mae’n hanfodol mai dim ond pobl wedi’u hyfforddi’n briodol i ddefnyddio plaladdwyr yn ddiogel sy’n eu defnyddio.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

£680 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Nod y cwrs hwn yw ennill cymhwysedd ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn ddiogel a sut i baratoi eich offer, ei gynnal a’i gadw a’i weithredu a’i galibro’n ddiogel. Gyda’r cyrchnod terfynol o gyflawni cymhwysedd mewn defnyddio plaladdwyr yn ddiogel gan ddefnyddio offer llaw. Cwmpesir amrywiaeth o bynciau gan gynnwys deddfwriaeth, dehongli labeli a llenyddiaeth cynhyrchion, diogelwch personol, storio plaladdwyr, taenwyr llaw, taenwyr gronynnau, taenu dŵr, taenu i fformiwleiddiad gel gludiog, gwaith safle a chynnal a chadw taenwr.

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r gwaith a’r rheiny sydd eisoes wedi ymsefydlu mewn rôl yn seiliedig ar ddefnyddio plaladdwyr, trwy ymgymryd â’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn defnyddio a gwasgaru plaladdwyr yn ddiogel.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli. Cynllunnir y cwrs hwn hefyd ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â storio, trin a gwasgaru plaladdwyr gan ddefnyddio offer llaw a’r gwaith o gynnal a chadw’r math o chwistrellwyr a ddefnyddir â llaw.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau