Amaethyddiaeth Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws y Gelli Aur
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o ffermio ymarferol.
Mae ganddo elfennau o wyddor planhigion ac anifeiliaid, hwsmonaeth anifeiliaid, peiriannau ac agweddau amgylcheddol drwy sgiliau ystad, sy’n dangos yr ystod eang o wybodaeth sydd ei hangen i weithio o fewn busnes ffermio.
Byddwch yn cymryd rhan mewn cymysgedd o addysgu ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth.
Fel rhan o’r cwrs, mae elfen o brofiad gwaith gorfodol a fydd yn helpu datblygu sgiliau a gwella cyflogaeth yn y diwydiant ar dir.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol mewn rhifedd a llythrennedd. Bydd cyfleoedd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer TGAU mewn Saesneg a mathemateg, a fydd yn hanfodol er mwyn parhau i lefel tri.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Adnoddau a chyfleusterau ardderchog
- Cymysgedd o wersi ymarferol a theori
- Amrywiaeth ragorol o ymweliadau a siaradwyr gwadd
- Cyfwerth â phedwar TGAU
- Mae’r cwrs yn cynnwys profiad gwaith
- Arbenigedd a chefnogaeth staff
- Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
- Peiriannau Amaethyddol
- Hwsmonaeth Cnydau
- Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
- Cynnal a chadw ystâd
- Gwyddor Planhigion ac Anifeiliaid
- Gweithio yn y Diwydiant Amaethyddol
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ar lefel teilyngdod neu’n uwch yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen i gyrsiau eraill ar lefel tri. Mae’r cwrs yn rhoi hyfforddiant ymarferol cynhwysfawr i’r rheiny sydd am fynd ati i ffermio’n ymarferol ac mae’n darparu gwybodaeth sylfaenol ragorol ar gyfer prentisiaethau.
Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd hi’n ofynnol i chi gael:
- Cymhwyster lefel un ar lefel teilyngdod neu’n uwch neu
- Bedwar TGAU ar raddau A* i E gydag o leiaf un TGAU ar radd A* i C mewn Cymraeg, Saesneg neu fathemateg.
- Yn ogystal, rhaid i chi gael cyfweliad llwyddiannus a dangos brwdfrydedd tuag at amaethyddiaeth a meddu ar y profiad amaethyddol priodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.