Peirianneg Amaethyddol Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws y Gelli Aur
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn darparu’r hyfforddiant a’r datblygiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol sy’n dymuno symud ymlaen i leoliad gwaith cysylltiedig â diwydiant neu addysg uwch. Mae’n cwmpasu sylfaen eang o beirianneg amaethyddol ac er ei fod yn gwrs ymarferol, mae’n canolbwyntio hefyd ar y theori y tu ôl i’r technolegau peirianneg sy’n gysylltiedig â’r diwydiant amaethyddol, yn enwedig o ran gofynion dylunio, gweithgynhyrchu a gwasanaethu tractorau amaethyddol a pheiriannau tir.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn gwrs lefel tri, llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch.
Blwyddyn 1 - 90 credyd
Blwyddyn 2 - 180 credyd
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn astudio tuag at gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
- Dilyniant mewn addysg i Addysg Uwch
- Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol.
- Hyfforddiant ymarferol a theori mewn peiriannau a chyfarpar Amaethyddol ac Ar Dir.
- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
- Iechyd a Diogelwch,
- Technoleg Injan
- Profiad yn gysylltiedig â gwaith (o leiaf 300 awr ym mlwyddyn un)
- Systemau Hydrolig,
- Cyfarpar gwasgaru,
- trin tir a phlannu,
- Cyfarpar cynaeafu
- Egwyddorion mecanyddol
- Arferion gweithdy
- Uniadu thermol
- Lluniadu peirianegol
- Diagnosteg
- Systemau Siasi,
- Trawsyriannau,
- Prosiect Peirianneg,
- Systemau tanwydd diesel
- Lluniadu peirianegol
Bydd cwblhau’r diploma estynedig yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr i gael mynediad i leoliadau gwaith cysylltiedig â’r diwydiant a chyrsiau lefel addysg uwch mewn pynciau cysylltiedig.
Asesir ar sail aseiniadau gwaith cwrs, profion diwedd modiwl, cwestiynu llafar ac ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol yn y gweithdy.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Pum TGAU graddau A* - C (yn cynnwys mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, neu Gymraeg) neu gymhwyster diploma lefel dau gyda Theilyngdod neu Ragoriaeth mewn pwnc perthnasol ynghyd ag un TGAU A* - C naill ai mewn Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu PPE gan gynnwys bŵts diogelwch, oferôls a sbectol diogelwch cyn dechrau’r cwrs.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.