Amaethyddiaeth Lefel 1 (Cwrs Coleg)
- Campws y Gelli Aur
Mae hwn yn gwrs llawn amser delfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno camu i’r diwydiant amaethyddol ond sydd efallai heb unrhyw brofiad neu gymwysterau ffurfiol.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich theori a’ch sgiliau ymarferol mewn amaethyddiaeth gan gynnwys cyfle i gwblhau 60 awr o brofiad gwaith a all wella rhagolygon cyflogaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Cwrs ymarferol.
- Staff caredig, gofalgar a gwybodus.
- Fferm goleg ardderchog gydag ystod dda o anifeiliaid a pheiriannau ynghyd ag ymweliadau rheolaidd â ffermydd, marchnadoedd a sioeau.
- Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd a’r cyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.
Mae gan ein cwrs amaethyddiaeth lefel un amrywiaeth o unedau gan gynnwys:
- Gofalu am anifeiliaid megis gwartheg llaeth, gwartheg bîff a defaid.
- Dysgu am beiriannau fferm, gan gynnwys tractorau ac offer.
- Dysgu am gnydau a ddefnyddir mewn ffermio da byw.
Bydd y tasgau ymarferol yn cael eu cyflawni ar fferm y coleg yn ystod sesiynau fferm ymarferol, lle byddwch yn cael eich dysgu i wneud amrywiaeth o dasgau bob dydd fel bwydo, gosod gwelyau gwellt, glanhau llociau, wyna, lloia a phob gofal iechyd arferol.
Yn dilyn llwyddiant ar lefel teilyngdod neu ragoriaeth fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel dau llawn amser neu brentisiaeth.. Mae’r staff yn hapus i’ch cefnogi a’ch tywys o ran eich dyheadau.
Bydd hyn yn seiliedig ar asesiadau ymarferol, llafar ac ysgrifenedig sy’n barhaus trwy gydol y cwrs.
Gall rhai fod yn seiliedig ar berfformiad a bydd eraill yn canolbwyntio ar wybodaeth greiddiol yr uned.
Hefyd bydd dau arholiad ar-lein.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Tri TGAU graddau A* i G neu gyfwerth a chyfweliad lllwyddiannus. Mae’n hanfodol bod gennych ddiddordeb mewn ffermio, da byw a chnydau.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.