
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel Gan Ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i Osod ar Gerbyd (PA2a)
- Campws y Gelli Aur
I atal lledaeniad clefyd a cholli cnydau mae ffermwyr, busnesau a defnyddwyr yn defnyddio plaladdwyr. Mae plaladdwyr yn helpu’r gymuned amaethyddol i reoli pryfed, clefydau a chwyn ymledol er mwyn diogelu cyflenwad bwyd y byd. Yn ogystal, mae defnyddwyr yn defnyddio plaladdwyr i ddiogelu eu hunain rhag pryfed a’u heiddo rhag termitiaid a phlanhigion ymledol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
Holwch am brisiau cyrsiau.
Ar sail gwahanol ffrydiau ariannu, gall prisiau newid.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ennill tystysgrif mewn defnyddio chwistrellwyr cnydau’r tir yn gymwys. I wneud hyn, bydd y cwrs yn archwilio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys arferion gyrru diogel, paratoi cyfarpar, gosod a phrofi cyfradd gwasgaru, gwaith ar safle, canfod diffygion a mathau o chwistrellwyr.
Bydd dysgwyr yn gallu profi eu gwybodaeth newydd gydag asesiad hanner diwrnod ar ddiwedd y cwrs. Bydd hyn yn gadael dysgwyr gyda’r sgiliau a’r hyder i wasgaru plaladdwyr gan ddefnyddio offer chwistrellu bŵm wedi’i osod ar gerbyd.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli.
Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yn ymwneud â phlaladdwyr ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.