Skip page header and navigation

Tocio Traed Gwartheg (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
2 Ddiwrnod

Bob blwyddyn mae miliynau o bunnoedd yn cael eu colli oherwydd cloffni mewn gwartheg. Mae tocio traed gwartheg yn rhan hanfodol o atal a lleihau cloffni. Mae’r cwrs hwn yn archwilio achosion cloffni mewn gwartheg a sut mae’r rhain yn gallu effeithio ar les a chynhyrchiant y fuches.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
2 Ddiwrnod

£400 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd y cwrs hwn yn helpu dysgwyr i nodi symptomau’r gwahanol glefydau a chyflyrau sy’n arwain at gloffni. Mae hwn yn gwrs hyfforddi ymarferol iawn. Bydd dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cwrs hwn yn cael hyfforddiant ar bynciau amrywiol gan gynnwys adnabod briwiau, deall briwiau, pam maent yn digwydd, sut i’w gwella, sut i’w hatal, arferion gwaith diogel, hogi cyllyll, defnyddio blociau os oes angen a defnyddio’r offer cywir.

Ar ddiwedd y cwrs hwn bydd dysgwyr yn ymgymryd ag asesiad ymarferol er mwyn atgyfnerthu ymhellach eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder o ran y pwnc tocio traed gwartheg.

Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra at ffermwyr a dysgwyr hefyd sy’n dymuno dod yn docwyr carnau proffesiynol. Mae’r gallu i docio traed gwartheg wedi dod yn hanfodol i ffermwyr oherwydd gallai gwartheg cloff gostio llawer mwy o arian. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys manylion penodol popeth sydd ei angen arnoch i wneud gwaith tocio traed gwartheg i lefel broffesiynol.

Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i gwrs tocio traed uwch.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau