Cynnal a Chadw Llif Gadwyn, Trawslifio, Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
Mae’r llif gadwyn yn offeryn hanfodol ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, mae’n ddarn o gyfarpar cludadwy a phwerus ond gall fod yn beryglus os nad yw’r dysgwr yn gwybod sut i’w ddefnyddio’n iawn ac os na chaiff ei gynnal a’i gadw’n rheolaidd. O’r toriadau cyntaf i gwympo coeden yn llwyr, bydd y cwrs hwn yn dangos i ddysgwyr popeth sydd angen iddynt wybod am ddefnyddio llif gadwyn.
Manylion y cwrs
- Saesneg
£1,200 (Cyllid ReAct+ ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys adnabod yr asesiad risg a’r gweithdrefnau brys ar safle gwaith, asesu’r coed i gael eu cwympo am beryglon a risgiau, gwneud toriadau cwympo cywir yn y mannau cywir, trin a stacio pren mewn ffordd ddiogel. Dewis a defnyddio offer llaw yn ddiogel, nodi nodweddion iechyd a diogelwch ar lif gadwyn, trawslifio pren yn gywir i hydoedd gofynnol ac asesu ac esbonio’r termau ‘tyniant’ a ‘chywasgiad’ mewn pren.
Bydd dysgwyr sy’n cymryd y cwrs hwn yn ennill gwybodaeth a hyder sydd eu hangen i drin llif gadwyn yn ddiogel ac yn effeithiol. Gyda sesiynau ymarferol bydd dysgwyr yn gallu datblygu a mireinio eu sgiliau ar gyfer cynnal a chadw llif gadwyn, trawslifio a chwympo a phrosesu coed hyd at 380mm.
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sy’n bwriadu gweithio neu sydd efallai eisoes yn gweithio mewn rôl sy’n galw am gynnal a chadw llif gadwyn, trawslifio a chwympo a phrosesu coed hyd at 380mm. Gallai’r rôl hon fod yn berthnasol i amrywiol ddiwydiannau gan gynnwys Coedwigaeth, Coetiroedd, Amaethyddiaeth, Cadwraeth, Garddwriaeth ac Adeiladu.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.