Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel Gan Ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i Osod ar Gerbyd (PA2a) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

I atal lledaeniad clefyd a cholli cnydau mae ffermwyr, busnesau a defnyddwyr yn defnyddio plaladdwyr. Mae plaladdwyr yn helpu’r gymuned amaethyddol i reoli pryfed, clefydau a chwyn ymledol er mwyn diogelu cyflenwad bwyd y byd. Yn ogystal, mae defnyddwyr yn defnyddio plaladdwyr i ddiogelu eu hunain rhag pryfed a’u heiddo rhag termitiaid a phlanhigion ymledol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

£680 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Nod y cwrs hwn yw ennill cymhwysedd ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn ddiogel a defnyddio chwistrellwr cnydau’r tir. Er mwyn gwneud hyn cwmpesir amrywiaeth o bynciau gan gynnwys deddfwriaeth, dehongli labeli a llenyddiaeth cynhyrchion, diogelwch personol, storio plaladdwyr, gwaredu plaladdwyr a golchiadau sy’n ormodol nas defnyddiwyd, delio gyda halogiadau a chadw cofnodion. Yn ogystal ag arferion gyrru diogel, paratoi cyfarpar, gosod a phrofi cyfradd gwasgaru, gwaith ar safle, canfod diffygion a mathau o chwistrellwyr.

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r gwaith a’r rheiny sydd eisoes wedi ymsefydlu mewn rôl yn seiliedig ar ddefnyddio plaladdwyr, trwy ymgymryd â’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn defnyddio a chwistrellu plaladdwyr yn ddiogel. Hefyd bydd dysgwyr yn gallu profi eu gwybodaeth newydd gydag asesiad hanner diwrnod ar ddiwedd y cwrs. Bydd hyn yn gadael dysgwyr gyda’r sgiliau a’r hyder i wasgaru plaladdwyr gan ddefnyddio offer chwistrellu bŵm wedi’i osod ar gerbyd.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau