Mae’r tractor yn beiriant hanfodol i gynifer o fusnesau. Mae gallu gweithredu’r cerbyd hwn yn ddiogel ac yn effeithlon yn hollbwysig. Mae’r darlithwyr yn tywys dysgwyr drwy’r theori y tu ôl i yrru tractor ac yn ymdrin â materion iechyd a diogelwch allweddol hefyd. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol o yrru tractor.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£380 (Cyllid ReAct+ ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys gwneud asesiad risg, dringo ar gefn tractor a dod i lawr yn ddiogel, deall gweithrediad yr holl reolyddion, tanio a diffodd yr injan mewn modd diogel. Cysylltu siafft PTO yn gywir rhwng tractor a theclyn, cysylltu teclyn mowntiedig a manwfro ymlaen ac yn ôl a gadael taclau heb eu cysylltu mewn cyflwr diogel i enwi ond ychydig.
Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ehangu ble bo angen ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i weithredu tractor yn ddiogel a chymwys.
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer gyrwyr tractor mewn amrywiol ddiwydiannau gan gynnwys amaethyddiaeth, mannau amwynder, coedwigaeth, diwydiannol a garddwriaeth. Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ehangu ble bo angen ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i weithredu tractor yn ddiogel a chymwys.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.