Skip page header and navigation

Peirianneg Amaethyddol Lefel 2 (Cwrs Coleg)

  • Campws y Gelli Aur
1 flwyddyn

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant llawn amser i fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol, sydd naill ai’n bwriadu ymuno â’r grefft neu sy’n dymuno symud ymlaen i lefel 3.  Mae’r hyfforddiant yn cynnwys atgyweirio, gwasanaethu a chynnal a chadw ystod eang o beiriannau amaethyddol ac ar dir.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol mewn rhifedd a llythrennedd.  Bydd cyfleoedd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer TGAU mewn Saesneg a mathemateg, a fydd yn hanfodol er mwyn parhau i lefel tri.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs peirianneg amaethyddol hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol.  Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol mewn peiriannau a chyfarpar amaethyddol ac ar dir.   

  • Peiriannau Amaethyddol
  • Technoleg Cerbydau Amaethyddol
  • Arferion Gweithdy
  • Technoleg Injan
  • Hydroleg Tractor
  • Systemau Trydanol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Weldio a Ffabrigo

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i gymhwyster peirianneg amaethyddol lefel 3 neu brentisiaeth mewn peirianneg amaethyddol.   

Gwaith cwrs, arholiadau ar-lein, cardiau jobsys ysgrifenedig a phrofi sgiliau ymarferol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.


 

Cymhwyster diploma lefel un neu 3 TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU graddau A* - D) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg a chyfweliad llwyddiannus. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu bŵts diogelwch, oferôls a sbectol diogelwch cyn dechrau’r cwrs.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau