Skip page header and navigation

Amaethyddiaeth Lefel 3

  • Campws y Gelli Aur
2 Flynedd

Mae’r cwrs amaethyddiaeth dwy flynedd hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau craidd a ofynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth, fel arferion gwaith diogel, hwsmonaeth da byw, cynhyrchu cnydau a gweithredu peiriannau amaethyddol yn ogystal â sgiliau busnes.    Maen nhw’n eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pwnc hwn neu bynciau cysylltiedig.  

Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn astudio tuag at gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Bydd yn ofynnol hefyd i chi gwblhau lleoliad gwaith wyth wythnos o hyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf.

Mae’r cwrs hwn yn gwrs lefel tri llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Ffermydd ffantastig fel mannau addysgu awyr agored
  • Balans ardderchog o wersi ymarferol a theori
  • Tîm o staff gofalgar, deallus a ymroddgar
  • Dulliau addysgu arloesol
  • Ystod o ymweliadau â diwydiant, ffermydd a sioeau
  • Ystod o siaradwyr gwadd
  • Egwyddorion Iechyd a Diogelwch 
  • Ymgymryd â phrofiad cysylltiedig â gwaith yn y diwydiannau ar dir a’i adolygu 
  • Gweithrediadau peiriannau ym maes y diwydiant ar dir   
  • Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol 
  • Gwyddor Planhigion a Phridd 
  • Ymgymryd â Sgiliau Ystâd 
  • Hwsmonaeth Da Byw 
  • Rheolaeth Busnes yn y Sector Ar Dir
  • Cynhyrchu Cnydau Porthiant 
  • Iechyd a Maetheg Anifeiliaid Fferm 
  • Rheoli Glaswelltir 
  • Llygredd a Rheoli Gwastraff 
  • Cynhyrchu Llaeth 
  • Cynhyrchu Bîff 
  • Cynhyrchu Defaid 
  • Gwyddor Anifeiliaid Fferm 
  • Cerbydau Pob Tir (ATV) a Wagenni Fforch Godi Delesgopig Tir Garw 
  • Prosiect Arbenigol yn y Sector ar dir 
  • Arferion Gweithdy 
  • Rheoli Llygredd a Rheoli Gwastraff 

Ar ôl gorffen, gallech: -

  • Astudio ar gyfer Gradd Sylfaen Lefel 4
  • Cofrestru ar Raglen Gradd BSc
  • Dod yn Brentis ar Fferm
  • Mae’n bosibl y byddwch yn symud ymlaen i weithio fel Cowmon/Rheolwr Buches, Technegydd Amaethyddol, magwr lloi neu stoc, Gweithredwr Peiriannau

Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pum TGAU gradd C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf).

Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf)

Fel rheol mae mynediad yn amodol ar gyfweliad a fydd yn dangos addasrwydd at amaethyddiaeth.  Mae’n hanfodol cael rhywfaint o brofiad o ffermio’n ymarferol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau