Skip page header and navigation

Trafodwr Telesgopig ar gyfer Tir Garw (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
2 Ddiwrnod

Defnyddir Trafodwyr Telesgopig ar gyfer Tir Garw yn eang ar draws y diwydiant amaethyddol oherwydd eu natur amlbwrpas a’u gallu i symud llwythi o bob siâp a maint. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr weithredu’r peiriant yn ddiogel, gan amddiffyn eu hunain a’r rheiny o’u cwmpas hefyd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
2 Ddiwrnod

£380 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd y cwrs hwn yn dangos i ddysgwyr sut i nodi pwrpas sylfaenol a defnydd pob rheolydd a medrydd a sut i nodi a chydymffurfio â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn unol â llawlyfr y gweithredwr. Bydd y cwrs hwn yn esbonio’r holl ddogfennaeth berthnasol, sut i wneud yr holl wiriadau cyn-defnyddio a rhedeg, sut i fanwfro mewn mannau cyfyng gan ddefnyddio’r cyfeiriad ymlaen ac yn ôl, gyda llwyth a heb lwyth hefyd.

Mae ennill tystysgrif yn dangos eich bod wedi cael hyfforddiant digonol at ddibenion y ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Mae’n cynnwys hyfforddiant mewn defnyddio’r cerbyd, unrhyw risgiau y gall defnydd o’r fath ddod yn ei sgil a rhagofalon i’w cymryd.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio tryc codi telesgopig ar gyfer tir garw (paled a llwyth) naill ai yn y diwydiant ar-dir neu’r diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen, gan roi’r hyder iddynt i’w weithredu’n ddiogel.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau