Skip page header and navigation

Gyrru Tractor (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
1 Diwrnod

Mae’r tractor yn brif ddarn o beirianwaith a ddefnyddir mewn busnesau di-rif. Fodd bynnag, mae defnyddio un yn gywir ac yn ddiogel yn hollol hanfodol. Bydd y cwrs hwn yn tywys dysgwyr drwy’r theori tu cefn i yrru tractor gyda chyfeiriadau rheolaidd at faterion iechyd a diogelwch allweddol. Bydd dysgwyr yn cael digonedd o brofiad tu ôl i olwyn lywio tractor yn ogystal.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

£380 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Cwmpesir llawer o bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys gwneud asesiad risg, dringo ar gefn tractor a dod i lawr yn ddiogel, deall gweithrediad yr holl reolyddion a’r peryglon sy’n gysylltiedig â nhw, tanio a diffodd yr injan mewn modd diogel. Atodi taclau mowntiedig a rhai a lusgir a manwfro, asesu cylch troi lleiaf y peiriant, cyflawni gweithrediadau sylfaenol gan ddefnyddio llwythwr wedi’i fowntio ar dractor a gadael y tractor mewn cyflwr diogel.

Mae croeso i ddechreuwyr a defnyddwyr tractor mwy profiadol ar y cwrs hwn. Mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ehangu ble bo angen ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i weithredu tractor yn ddiogel a chymwys.

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer dysgwyr â phrofiad blaenorol a dysgwyr sy’n newydd i yrru tractor gan gwmpasu ystod o ddiwydiannau gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth a diwydiannol.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau