Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan Weithredu Offer Math Wic / Weedwipe wedi’i Osod ar Gerbyd neu ei Lusgo tu ôl (PA2F) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
1 Diwrnod

Defnyddir plaladdwyr yn helaeth iawn ac yn llwyddiannus mewn diwydiannau ar-dir, ond gallant o bosib fod yn sylweddau niweidiol. Felly mae’n hanfodol eu bod yn cael eu trin, eu gwasgaru a’u storio’n gywir, sy’n gwneud hyfforddiant yn hanfodol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

£380 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Cwmpesir amrywiol bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys:

  • Nodi a disgrifio sut mae offer math wic wedi’i osod ar gerbyd/wedi’i lusgo tu ôl yn gweithredu.
  • Asesu risgiau amgylcheddol yn ddiogel.
  • Paratoi a gosod yr offer.
  • Gosod a chalibro’r offer ar gyfer gwasgariad penodol.
  • Llenwi’r offer yn ddiogel.
  • Gweithredu’r offer yn ddiogel ac yn effeithiol.
  • Glanhau a diheintio’r offer yn ddiogel.
  • Cynnal a chadw a storio’r offer yn gywir.

Mae gan y cwrs Dyfarniad Lefel 2 hwn mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan Weithredu Offer Math Wic /Weedwipe wedi’i Osod ar Gerbyd neu ei Lusgo tu ôl hyfforddwyr profiadol sy’n tywys dysgwyr drwy sut i ddefnyddio’r offer a’r peiriannau sy’n gysylltiedig mewn modd priodol a diogel.

Cynllunnir y cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio plaladdwyr ar hyn o bryd neu sy’n bwriadu defnyddio plaladdwyr tra’n gweithredu offer math wic wedi’i osod ar gerbyd neu ei lusgo tu ôl megis weedwipe.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau