Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Gan Ddefnyddio Offer Llaw (PA6) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
1 Diwrnod

Mae plaladdwyr, er eu bod yn sylweddau a allai fod yn niweidiol, yn llwyddiannus iawn a chânt eu defnyddio’n helaeth mewn diwydiannau ar-dir. Oherwydd eu natur niweidiol mae’n hanfodol mai dim ond pobl wedi’u hyfforddi’n briodol i ddefnyddio plaladdwyr yn ddiogel sy’n eu defnyddio. Mae PA6 yn darparu hyfforddiant mewn defnyddio offer chwistrellu â llaw.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

£380 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs yn edrych ar sut i baratoi eich offer, ei gynnal a’i gadw a’i weithredu a’i galibro’n ddiogel. Gyda’r cyrchnod terfynol o gyflawni cymhwysedd mewn defnyddio plaladdwyr yn ddiogel gan ddefnyddio offer llaw. I wneud hyn cwmpesir amrywiol bynciau gan gynnwys paratoi, taenwyr o’r math â blaen hydrolig ac atomadur cylchol, taenwyr llaw, taenwyr gronynnau, taenu dŵr, taenu i fformiwleiddiad gel gludiog, gwaith safle a chynnal a chadw taenwr.

Gwneir asesiad ymarferol hanner diwrnod o hyd, nid yn unig i brofi dealltwriaeth y dysgwyr o’r deunydd ond i roi’r hyder iddynt eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs hwn.

Cynllunnir y cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â storio, trin a thaenu plaladdwyr gan ddefnyddio cyfarpar llaw a’r gwaith o gynnal a chadw’r math o chwistrellwyr a ddefnyddir â llaw.

Gall dysgwyr symud ymlaen i unedau pellach unwaith eu bod wedi ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn Gallai dysgwyr bob amser wneud ymholiadau ynghylch y cwrs Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Gan Ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i Osod Ar Gerbyd (PA2a) fel opsiwn dilyniant.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau