Prentisiaeth mewn Amaethyddiaeth (Lefel 2, Lefel 3, Lefel 4)
- Campws y Gelli Aur
Mae’r rhaglen Prentisiaeth Amaethyddiaeth yn cynnig llwybr cynhwysfawr o Lefel 2 i Lefel 4, gan gyfuno profiad ymarferol â dysgu academaidd. Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr 16 oed a hŷn, yn cwmpasu sgiliau amaethyddol sylfaenol, arferion uwch, a thechnegau rheoli. Bydd prentisiaid yn gyflogedig, gan ennill cyflog wrth ddysgu, ac yn mynychu’r coleg ar sail eu rhyddhau am ddiwrnod. Gyda chefnogaeth ymgynghorydd hyfforddi/aseswr, bydd dysgwyr yn ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant a sgiliau hanfodol, gan eu paratoi ar gyfer rolau amrywiol yn y sector amaethyddol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r brentisiaeth yn darparu cyfuniad o waith ymarferol, astudiaeth academaidd, a datblygiad proffesiynol, gan sicrhau dealltwriaeth drylwyr o arferion amaethyddol. Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy waith cwrs, aseiniadau ac arsylwadau yn y gwaith. Mae’r rhaglen yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac yn cynnig cyfleoedd dilyniant i brentisiaethau uwch neu addysg bellach. Mae ymgynghorwyr hyfforddi/aseswyr yn rhoi cymorth rheolaidd ac yn cysylltu â chyflogwyr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cwblhau’n brydlon.
- Gall graddedigion Lefel 2 symud ymlaen i Brentisiaethau Lefel 3.
- Gall graddedigion Lefel 3 symud ymlaen i Brentisiaethau Uwch Lefel 4 neu raddau sylfaen.
- Gall graddedigion Lefel 4 ddilyn cyrsiau addysg uwch neu rolau uwch yn y sector amaethyddol, fel rheolwr uned neu reolwr fferm cynorthwyol.
Lefel 2:
Mae’r unedau’n cynnwys: Monitro a Chynnal Iechyd a Diogelwch, Cynnal a Datblygu Perfformiad Personol, Paratoi a Thrin Safleoedd yn Barod ar gyfer Plannu Cnydau, Cynnal Twf Iach Cnydau, Cynnal Bioddiogelwch Safle a Hylendid Personol, Paratoi Cyflenwadau Porthiant a Dŵr ar gyfer Da Byw, Cynnal Iechyd a Lles Da Byw yn ystod Genedigaeth, a llawer mwy.
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif (Lefel 1), Cyfathrebu (Lefel 1).
Lefel 3:
Mae’r unedau’n cynnwys: Cynnal a Datblygu Perfformiad Personol, Sefydlu a Chynnal Perthynas Weithio Effeithiol ag Eraill, Paratoi Safleoedd Awyr Agored ar gyfer Cyflwyno Da Byw, Monitro a Chynnal Da Byw ar Safleoedd Awyr Agored, Paratoi ar gyfer Cludo Anifeiliaid, Rheoli Eich Adnoddau Eich Hun, Hyrwyddo, Monitro a Chynnal Iechyd, Diogelwch a Diogeledd, Paratoi a Monitro Safleoedd Tyfu ar gyfer Plannu Cnydau, Sefydlu, Monitro a Chynnal Amodau Priodol ar gyfer Da Byw, a mwy.
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif (Lefel 2), Cyfathrebu (Lefel 2).
Lefel 4:
Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith.
Mae’r unedau’n cynnwys: Monitro a Chynnal Cyfnod Deor Adar Ifanc, Monitro a Chynnal Twf Adar Ifanc, Monitro a Chynnal Maetheg Pridd ar gyfer Glaswelltir a Chnydau Porthiant, Datblygu a Gweithredu Cynlluniau ar gyfer Gwaredu Gwastraff, Paratoi a Gweithredu Cerbyd Pŵer, Monitro a Chynnal Casglu, Graddio a Pharatoi Wyau, a llawer mwy.
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol (Lefel 2).
Mae dulliau asesu’n cynnwys portffolio gwaith cwrs, cwestiynu ysgrifenedig a llafar, arsylwadau seiliedig ar waith a thystiolaeth ymarferol. Nid oes unrhyw arholiadau traddodiadol; mae pob asesiad wedi’i gynllunio i adlewyrchu senarios y byd go iawn.
Caiff prentisiaethau yng Nghymru eu hariannu’n llawn, os ydych yn ddysgwr cymwys. Gall costau ychwanegol gynnwys gwerslyfrau a deunyddiau dysgu opsiynol. Rhaid bod prentisiaid yn gyflogedig ac yn cael eu cefnogi’n llawn gan eu cyflogwyr ar hyd y rhaglen. Mae ffioedd aelodaeth broffesiynol yn berthnasol ac yn cael eu talu’n flynyddol gan y prentis.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gyflogedig yn y sector amaethyddol. Mae gofynion mynediad yn hyblyg, gyda chyfweliadau cychwynnol a sgriniwr sgiliau sylfaenol i bennu’r lefel briodol. Mae cymwysterau neu brofiad perthnasol mewn amaethyddiaeth yn fanteisiol. Bydd angen Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol os nad ydynt wedi’u hennill yn flaenorol. Mae gweithwyr cyflogedig newydd a rhai presennol hefyd yn gymwys.