Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel gan Weithredu Offer Math Wic (weedwipe) wedi’i Osod ar Gerbyd neu ei Lusgo tu ôl (PA2F) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

Defnyddir plaladdwyr yn helaeth iawn ac yn llwyddiannus mewn diwydiannau ar-dir, ond gallant o bosib fod yn sylweddau niweidiol. Felly mae’n hanfodol eu bod yn cael eu trin, eu gwasgaru a’u storio’n gywir, sy’n gwneud hyfforddiant yn hanfodol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod yn Cynnwys Asesu

£680 (Cyllid ReAct+ ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Cwmpesir amrywiol bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys:

  • Deddfwriaeth
  • Diogelwch personol
  • Cadw cofnodion
  • Asesu risgiau amgylcheddol yn ddiogel
  • Paratoi a gosod yr offer
  • Gosod a chalibro’r offer ar gyfer gwasgariad penodol
  • Glanhau a diheintio’r offer yn ddiogel
  • Cynnal a chadw a storio’r offer yn gywir

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli. Mae gan y cwrs hwn hyfforddwyr profiadol sy’n tywys dysgwyr drwy sut i ddefnyddio’r offer a’r peiriannau sy’n gysylltiedig mewn modd priodol a diogel.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar y gwaith, y rheiny sydd wedi ymsefydlu mewn rôl a’r rheiny sy’n gweithio ar lefelau technegydd/goruchwyliol/rheoli. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio plaladdwyr ar hyn o bryd neu sy’n bwriadu defnyddio plaladdwyr tra’n gweithredu offer math wic wedi’i osod ar gerbyd neu ei lusgo tu ôl megis weedwipe.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i un o’r amrywiol gyrsiau eraill a gynigir gan helpu i ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant a symud ymlaen eu gyrfaoedd a’u cyflogadwyedd.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau