Skip page header and navigation

Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygu Planhigion (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
Blwyddyn, bob dydd Mawrth

Mae cwrs twf a datblygiad planhigion y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn uchel ei barch gan y diwydiant ac yn boblogaidd gyda phobl sydd am ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth yn ogystal â garddwyr brwd sydd eisiau dysgu mwy.

Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen ddamcaniaethol gadarn i ddysgwyr ac yn cynnig dealltwriaeth o’r hyn sydd y tu ôl i wyddor planhigion, megis sut maent yn gweithredu, maetheg, iechyd, addasiadau a gwahanol arddulliau o blannu.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o’r diwydiant garddwriaethol a’r rôl hanfodol y mae planhigion yn ei chwarae wrth wella bioamrywiaeth.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
Blwyddyn, bob dydd Mawrth

What you will learn

Bydd darlithwyr profiadol o gefndiroedd amrywiol yn rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’ch helpu i gyrraedd y man lle rydych chi am fod.

Cynhelir y cwrs ar gampws y coleg yn y Gelli Aur lle caiff myfyrwyr fynediad i’r llyfrgell sydd â stoc fawr o ddeunyddiau dysgu garddwriaethol.

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth am yr egwyddorion gwyddonol sydd yn tanategu arferion garddwriaethol yn ogystal â dealltwriaeth o’r diwydiant garddwriaeth a’i berthnasedd i gymdeithas a bioamrywiaeth.

Ceir 2 uned sy’n cwmpasu 8 testun:

Uned 1

  1. Gwyddor Planhigion 1: darparu gwybodaeth greiddiol am y planhigyn, ei strwythur a’i swyddogaeth.
  2. Iechyd Planhigion: darparu gwybodaeth greiddiol a dealltwriaeth o effaith ystod o ffactorau ar iechyd planhigion.
  3. Maetheg Planhigion: darparu gwybodaeth arddwriaethol o faetheg planhigion a chyfryngau tyfu.
  4. Manylion Planhigion: darparu gwybodaeth arddwriaethol i wneud argymhellion ar gyfer plannu yn seiliedig ar fatsio anghenion planhigyn a gofynion lleoliad

Uned 2

  1. Gwyddor Planhigion II: darparu dealltwriaeth o’r ystod o addasiadau planhigion a’u rolau.
  2. Arddulliau Plannu: darparu gwybodaeth arddwriaethol o’r ffactorau sydd ynghlwm wrth greu ystod eang o wahanol fathau o blannu garddwriaethol.
  3. Garddwriaeth a’r Gymdeithas: caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gyfraniad garddwriaeth i’r gymdeithas, gan gynnwys yn gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
  4. Bioamrywiaeth: darparu gwybodaeth gymhwysol o rolau planhigion wrth greu cynefinoedd i annog bioamrywiaeth.

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i:

Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol a’r cymhwyster Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion yn llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.

Mae opsiynau hefyd i symud ymlaen i lefel 3.

Asesir pob uned trwy arholiad ysgrifenedig ar wahân, a gaiff ei osod a’i farcio gan yr RHS.  Cynigir arholiadau ddwywaith y flwyddyn ym misoedd Chwefror a Mehefin.

£360. Does dim cymwysterau mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn ond dylai fod gan ymgeiswyr rywfaint o brofiad gwaith yn y diwydiant neu dylent fod yn arddwyr profiadol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau