Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Garddwriaeth

  • Campws y Gelli Aur
24 Mis

Cynlluniwyd y brentisiaeth hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant garddwriaeth, gan ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector. Bydd dysgwyr yn datblygu arbenigedd ymarferol mewn sefydlu, rheoli a thyfu planhigion, gan ennill profiad ymarferol tra’n gweithio mewn amgylcheddau byd go iawn. 

Mae’r rhaglen yn cwmpasu arferion garddwriaethol allweddol, gan sicrhau bod prentisiaid yn adeiladu sylfaen gref mewn gofal planhigion, rheolaeth pridd, a thechnegau tyfu a garddio cynaliadwy. 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am wella eu sgiliau a symud ymlaen o fewn y diwydiant ac mae’n paratoi unigolion ar gyfer amrywiaeth o rolau o fewn y sector, gan gynnwys Garddwr, Tirluniwr, Gweithiwr Meithrinfa Blanhigion, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gofalwr y Grîn a Thirmon.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
24 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn cyfuno hyfforddiant ymarferol, seiliedig ar gymhwysedd gyda dysgu damcaniaethol i ddatblygu sgiliau hanfodol mewn garddwriaeth.

Byddwch yn cwblhau’r unedau gorfodol canlynol, ynghyd ag unedau opsiynol ychwanegol:

  • Uned 201 – Monitro a chynnal a chadw iechyd a diogelwch,
  • Uned 202 – Cynnal a datblygu perfformiad personol
  • Uned 203 – Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol
  • Uned 205 – Paratoi’r ddaear ar gyfer hau a phlannu
  • Uned 206 – Sefydlu planhigion neu hadau mewn pridd
  • Uned 244 – Dull enwi, terminoleg, ac adnabod planhigion

Mae’r brentisiaeth hon yn darparu llwybr strwythuredig i yrfa mewn garddwriaeth. Ar Lefel 2, mae dysgwyr yn ennill gwybodaeth sylfaenol a sgiliau, gan adeiladu dealltwriaeth gref o egwyddorion craidd yn y diwydiant. Mae’r cymhwyster hwn yn paratoi unigolion ar gyfer amrywiaeth o rolau o fewn y sector, gan gynnwys Garddwr, Tirluniwr, Gweithiwr Meithrinfa Blanhigion, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gofalwr y Grîn a Thirmon.

  • Cymhwyster cyfunol C&G – Portffolio o dystiolaeth ar gyfer pob uned ac asesiadau annibynnol. 
  • Sgiliau hanfodol - Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Garddwriaeth, fodd bynnag, byddai profiad yn y sector yn fanteisiol. Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi’n llawn gan ei gyflogwr. Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Mae’r brentisiaeth hon yn addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Deunydd Ysgrifennu
  • Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau