Gofal Plant Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Croeso i fyd bywiog gofal plant, lle mae pob diwrnod yn llawn cyfle i siapio meddyliau ifanc. Mae gweithio ym maes gofal plant yn yrfa gyffrous a boddhaus sy’n caniatáu i chi gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a’u teuluoedd.
Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n ceisio gwaith, mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant hyd at 19 oed.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae hwn yn gwrs llawn amser ac mae’r cymhwyster yn seiliedig ar weithdai ac ymarfer.
Bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 280 o oriau lleoliad.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn:
- Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant,
- Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cefnogi gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant,
- Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant,
- Ystyried rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant a deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiadau Cynnydd
- Datblygu llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Diogelwch Bwyd
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Mae cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithwyr gofal plant Lefel 2 cymwys mewn swyddi dan oruchwyliaeth. Yn ogystal gallai’r cymhwyster arwain at:
- Ddilyniant i addysg bellach,
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer,
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori,
- Diploma Lefel 2/3 mewn Gwaith Chwarae
Bydd yr elfen graidd yn cael ei hasesu trwy bapur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol ac arholiad.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer ac arholiad.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y lefel dau feddu ar:
O leiaf 3 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i fathemateg fod yn radd E neu uwch ac mae angen gwiriad DBS manwl clir.
- Ffi Cofrestru - £25 y flwyddyn
- DBS Manwl - £44
- Iwnifform - y gost yn fras am Hwdi £20, Crys Polo £12