Prentisiaeth Uwch mewn Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi (Cwrs Prentisiaeth)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Rhaglen dysgu seiliedig ar waith yw hon sy’n briodol ar gyfer unigolion sy’n gweithio ar Fand 4 (neu lefel gyfwerth) o fewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unrhyw un o’r disgyblaethau therapïau:
- Dieteg
- Therapi Galwedigaethol
- Therapi Iaith a Lleferydd
- Ffisiotherapi
- Podiatreg
Cyflwynir y cymhwyster hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant PCYDDS.
Cymhwyster proffesiynol yw cymhwyster Lefel 4 Agored ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi. Mae’n gosod y meincnod ar gyfer y proffesiwn ac mae’n darparu sylfaen gref i roi’r hyder a’r galluoedd i weithwyr proffesiynol i arwain eu proses penderfynu, eu gweithredoedd a’u hymddygiadau.
Mae’r cymhwyster lefel 4 hwn yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd a bydd yn rhoi i chi:
- Sylfaen gadarn mewn sgiliau astudio a sgiliau seiliedig ar waith.
- Y wybodaeth, sgiliau a’r ymddygiadau i gyflwyno tasgau sydd wedi’u dirprwyo i chi.
- Y gallu i symud ymlaen i astudio pellach os dymunir.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Prentisiaeth Uwch ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi
Er mwyn ennill diploma lefel 4 Agored ar gyfer ymarferwyr Cynorthwyo Therapi rhaid cyflawni cyfanswm o 120 credyd. Mae hyn yn cynnwys 40 credyd o’r unedau Gorfodol. 50 Credyd o’r grŵp gorfodol gydag unedau dewisol ac uchafswm o 30 credyd o unedau dewisol ychwanegol. Rhaid cyflawni o leiaf 90 credyd (75%) o unedau lefel 4.
Unedau Enghreifftiol
- Rôl yr Ymarferwr Cynorthwyo Therapi
- Ymarferwr Cynorthwyo Therapi: Dangos ymarfer
- Gwneud Penderfyniadau Clinigol ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi
- Sgiliau Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer ymarfer Gofal Iechyd
- Hybu Iechyd a Lles
Prif Gymwysterau
Diploma Lefel 4 Agored Cymru ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi.
Sgiliau Hanfodol Cymru: Llythrennedd Digidol, Rhifedd* a Chyfathrebu*
*Mae prentisiaid sydd â gradd TGAU A*-C, neu gyfwerth, wedi’u heithrio rhag cymryd y Sgiliau Hanfodol hyn.
Bydd cyflawni Diploma Lefel 4 Agored ar gyfer ymarferwyr Cynorthwyo Therapi yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch gan ymgymryd ag ystod o raddau cysylltiedig sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol. Yn amodol ar fodloni unrhyw ofynion mynediad.
Ffocws asesu
Mae asesu ar gyfer diploma Lefel 4 Agored ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi yn cynnwys ysgrifennu academaidd ac asesu ymarferol yn y gweithle. Amlinellir yr holl ddyddiadau asesu ar ddechrau modiwl er mwyn hwyluso’r cynllunio a’r paratoi.
Graddio’r asesu
- Nid yw’r cymhwyster hwn yn cael ei raddio. Bydd dysgwyr yn derbyn naill ai Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu er mwyn cyflawni Pas.
Cyflawni’r cymhwyster
Mae’r holl asesiadau ar gyfer y cymhwyster hwn yn cyfeirio at feini prawf, yn seiliedig ar gyflawni deilliannau dysgu penodol. I ennill Pas ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwr fod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer pob uned. Os na chyflawnir y cymhwyster cyfan, gellir rhoi credyd ar ffurf datganiad o gredyd uned annibynnol. Bydd datganiadau o gredyd uned annibynnol yn amodol ar gyfredolrwydd y cymhwyster presennol a gwiriadau sicrhau ansawdd Agored. Bydd penderfyniad Agored yn derfynol.
Mae ymgeiswyr fel rheol yn 18 neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.
Dangos dysgu blaenorol mewn disgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol
Wedi cyflawni o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn disgyblaeth berthnasol gysylltiedig.
*Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi a chael cymeradwyaeth eu rheolwr llinell i gael mynediad i’r cwrs hwn*.
Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.