Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant - Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Gall gweithio gyda phlant fod yn ddewis gyrfa gwerth chweil a boddhaus i unigolion sy’n frwdfrydig dros siapio a meithrin meddyliau ifanc.
Bydd y cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant lefel dau yn darparu trwydded i chi ymarfer a gweithio gyda phlant rhwng 0-8 oed. Rhennir y rhaglen yn ddwy adran - y craidd a’r elfen theori ac ymarfer.
Cewch y cyfle i wella eich sgiliau Cymraeg ac ennill cymwysterau cymorth cyntaf. Byddwch yn datblygu eich llythrennedd, rhifedd a’ch galluoedd digidol. Bydd yna gyfleoedd i wella graddau mewn TGAU mathemateg a Saesneg. Bydd gofyn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith yn gweithio mewn amgylcheddau gwaith go iawn, sef cyfanswm o 280 awr a drefnir gan aseswr y coleg. Bydd yr aseswr yn gwneud arsylwadau yn y gweithle i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf gweithle penodol a hefyd bydd angen i chi lunio portffolio ymarfer.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach:
- Sydd â diddordeb mewn gweithio mewn rôl gefnogi yn y sector gofal plant
- Sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y sector gofal plant.
Cyflwynir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac mewn lleoliad gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod ar leoliad a thri diwrnod yn y coleg. Bydd siaradwyr gwadd ac arbenigwyr hefyd yn dod i’r coleg i siarad â chi am eu profiadau o fewn gwahanol sectorau gan gynnwys gwasanaethau statudol, gwirfoddol a thrydydd parti. Hefyd byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau Cymraeg a diwylliannol er mwyn gwella cyflogadwyedd.
Mae gan y cymhwyster hwn graidd o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector hwn. Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudiaeth bellach ar gwrs lefel tri Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y llwyddiant cyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.
Adran deilliannau Dysgu Craidd Datblygiad (0-19 oed) i gynnwys:
- 001 - Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)
- 002 - Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad
- 003 - Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- 004 - Diogelu Plant
- 005 - Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Theori (Uned 216) ac elfen Ymarfer (Uned 200- 204 gorfodol ac opsiynol) i gynnwys:
- Camau a phatrymau cyffredinol datblygiad corfforol, deallusol (gwybyddol), ieithyddol, emosiynol a chymdeithasol mewn plant o adeg cenhedlu i 19 oed.
- Y ffordd gall amgylcheddau dysgu gynorthwyo a chefnogi iechyd, lles, datblygiad ac anghenion plant o 0-19 oed
- Gwerth ac effaith deddfwriaeth mewn perthynas â phob math o leoliadau chwarae, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru.
- Rôl a gwerth y gwasanaethau gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi anghenion gofal, iechyd, lles a datblygiad plant.
Un asesiad amlddewis ym mlwyddyn un (a asesir yn allanol) a phortffolio o weithgareddau ymarferol.
Dau TGAU graddau A*-C gyda Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg o leiaf gradd E gyda dau TGAU ychwanegol graddau D i G.
Oherwydd natur y rôl o weithio gyda phlant, bydd angen gwiriad DBS boddhaol yn ogystal arnoch ynghyd â geirda.
Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr gael gwiriad DBS a phrynu iwnifform lleoliad gwaith.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.