Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 3) (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n ceisio gwaith, mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant hyd at 19 oed.
Bydd llwybr dysgu unigol yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob dysgwr a bydd yn cynnwys pob un neu rai o’r canlynol:
- Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Craidd / Ymarfer a Theori
- Tystysgrif Her Sgiliau
- Cymwysterau ychwanegol Galwedigaethol Addas
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer.
Bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 720 o oriau lleoliad.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn:
- Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant,
- Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cefnogi gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant,
- Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant,
- Ystyried rôlau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
a deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiadau Cynnydd
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Diogelwch Bwyd
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth o fewn rôl Lefel 3 neu symud ymlaen i ddysgu pellach trwy’r cymwysterau Consortiwm* canlynol:
- Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae,
- Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag arbenigedd,
- Lefel 4 Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion, Theorïau a chyd-destunau.
Bydd pwyntiau UCAS ynghlwm wrth y cymhwyster i alluogi symud ymlaen i Addysg Uwch.
Bydd yr elfen graidd yn cael ei hasesu trwy bapur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol ac arholiad.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer, arholiad ac ymchwiliad estynedig.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel tri feddu ar:
O leiaf 5 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i fathemateg fod yn radd D neu uwch.
Yn ogystal, bydd angen DBS manwl clir ar ddysgwyr.
DBS Manwl - £44
Iwnifform - y gost yn fras am hwdi £20, crys polo £12.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.