Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) (Cwrs Coleg)
- Campws Rhydaman
Mae’r diploma lefel tri mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (QCF) wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n cael eu cyflogi mewn lleoliad gofal.
Bydd hyn yn darparu tystiolaeth o gymhwysedd y dysgwr mewn rolau a chyfrifoldebau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc.
Os ydych yn bwriadu gweithio yn Lloegr cysylltwch â Skills for Care (SfC) i gael mwy o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Gweithdai cefnogi rheolaidd yn y coleg
- Asesu gan aseswyr cymwys a phrofiadol
- Cymhwyster statudol a gydnabyddir ledled Cymru a Gogledd Iwerddon
Mae’r unedau gorfodol fel a ganlyn:
- Cyfathrebu,
- Datblygiad Personol,
- Cydraddoldeb a Chynhwysiant,
- Dyletswydd Gofal,
- Datblygiad Plant a Phobl Ifanc,
- Diogelu Lles Plant a Phobl Ifanc,
- Iechyd a Diogelwch,
- Perthnasoedd Cadarnhaol a Chanlyniadau Cadarnhaol,
- Cydweithio er Budd Plant a Phobl Ifanc,
- Asesu a Chynllunio,
- Lles a Gwytnwch,
- Nam ar y Synhwyrau,
- Ymarfer Proffesiynol.
- Dewisir Unedau Opsiwn fel sy’n berthnasol i leoliad gwaith y dysgwr.
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu fel gofyniad statudol ar gyfer dilyniant o fewn y sector gofal i’r holl staff.
Y radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster yw pas. Er mwyn pasio unrhyw uned, rhaid i’r dysgwr gyflawni’r holl ddeilliannau dysgu a nodwyd a bodloni’r holl feini prawf asesu trwy ddarparu tystiolaeth ddigonol a dilys ar gyfer pob maen prawf mewn portffolio.
Aseswr yn y coleg fydd yn asesu’r dyfarniad gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau gan gynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, adroddiadau adfyfyriol ysgrifenedig, trafodaeth broffesiynol, cwestiynau ac atebion, tystiolaeth gan dyst arbenigol a thystiolaeth o gydnabod dysgu blaenorol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Does dim angen cymwysterau ffurfiol ond bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio ar lefel 3 mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol a chael cefnogaeth gan eu cyflogwr i gwblhau’r dyfarniad.
Gall rolau gwaith gynnwys uwch gynorthwyydd gofal, uwch weithwyr cymorth mewn lleoliadau gofal preswyl, gofal dydd, gofal seibiant, gofal maeth.