Skip page header and navigation

Lefel 2 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: ymarfer (Cwrs Coleg)

  • Campws Aberystwyth
1 Flwyddyn - Dysgu Seiliedig Ar Waith

Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn:

  • Gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed
  • Gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.

Mae wedi ei gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith.

Mae’n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr 16 oed+ sy’n gweithio mewn rôl gefnogi mewn gofal plant
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • Dysgwyr yn y gwaith ac sy’n ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau Lefel 2
  • Dysgwyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ac sy’n dymuno gloywi eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Rydym yn argymell yn gryf bod dysgwyr yn cwblhau cymhwyster lefel dau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn: bydd hyn yn ofyniad ar gyfer ymarfer a osodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn - Dysgu Seiliedig Ar Waith

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer yn y gwaith.

Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster.

Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel dau cymwys mewn swyddi dan oruchwyliaeth. Mae’r cymhwyster hefyd yn paratoi ar gyfer symud ymlaen i:

Addysg Bellach

  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Rhaid i ddysgwyr fodloni gofynion ychwanegol sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad ar gyfer rhai rolau arwain.

I gyflawni’r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 (oedolion) a 3 (oedolion neu blant a phobl ifanc) :   Ymarfer rhaid i ddysgwyr:

  • Lefel 2:
    • Gyflawni lleiafswm o 35 credyd i gyd;
    • Rhaid cyflawni 14 credyd o’r grŵp gorfodol.
    • Rhaid cyflawni lleiafswm o 14 credyd o grŵp opsiynol A.
    • Gellir cyflawni’r 7 credyd sy’n weddill o’r unedau yng ngrwpiau opsiynol A neu B.
    • Gellir cyflawni mwyafswm o 14 credyd o grŵp opsiynol A a B o unedau ar Lefel 3
    • Yr isafswm oriau dysgu dan arweiniad sydd eu hangen ar gyfer y cymhwyster hwn yw 175.

Ffioedd Dysgu seiliedig ar Waith: £115 (mae eithriadau’n berthnasol)

  • Lefel 3:
    • Cyflawni lleiafswm o 50 credyd i gyd;
    • Rhaid cyflawni 18 credyd o’r grŵp gorfodol.
    • Rhaid cyflawni lleiafswm o 13 (plant a phobl ifanc) neu 14 (oedolion) credyd o grŵp opsiynol A.
    • Gellir cyflawni’r 19 (plant a phobl ifanc) neu 18 (oedolion) credyd sy’n weddill o’r unedau yng ngrwpiau opsiynol A neu B.
    • Gellir cyflawni mwyafswm o 10 credyd o grŵp opsiynol A a B o unedau ar Lefel 2

Yr isafswm oriau dysgu dan arweiniad sydd eu

Asesir y cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant lefel dau: ymarfer trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • Set o dasgau sy’n cael eu gosod yn allanol, a’u marcio’n fewnol
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Trafodaeth gyda’u haseswr

Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.

Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau