FdA Astudiaethau Gofal Cymdeithasol (Gradd Sylfaen)
- Campws Rhydaman
Mae’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yn wirioneddol unigryw. Dyma’r unig un o’i bath yng Nghymru. Mae wedi cael ei haddysgu ers dros 30 mlynedd gyda’i fersiwn ddiweddaraf yn cael ei diweddaru yn 2021 felly mae’n parhau’n gyfredol ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gofal cymdeithasol.
Mae gan y cwrs gysylltiadau da gyda chyflogwyr a sefydliadau lleol sy’n helpu ein myfyrwyr i sicrhau cyflogaeth. Mae’n edrych ar y sector gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd gan gynnwys gweithio yn y maes iechyd meddwl, anableddau dysgu a gwasanaethau prawf. Mae’r radd sylfaen hon yn gwrs prifysgol dwy flynedd, llawn amser ac mae myfyrwyr yn mynychu darlithoedd am ddau ddiwrnod yr wythnos ar ein Campws yn Rhydaman.
Cyflwynir y cwrs mewn dull cyfunol, sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael darlithoedd wyneb yn wyneb wedi’u hategu gan ddysgu ar-lein. Disgwylir i fyfyrwyr yn ogystal ymgymryd ag astudio hunangyfeiriedig, annibynnol. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i archwilio gofal cymdeithasol a’r gwerthoedd a’r systemau sy’n tanategu gwaith yn y maes hwn. Mae myfyrwyr yn ennill y theori a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn llawer o wahanol feysydd gofal cymdeithasol a, thrwy wirfoddoli gofynnol neu brofiad gwaith, maen nhw’n gweld sut mae’r rhain yn cael eu rhoi ar waith. Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster gradd sylfaen a ddilysir gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Tîm bach o staff cyfeillgar a grwpiau bach o tua 15-25 o bobl
- Tiwtoriaid profiadol sy’n gymwys yn academaidd a phroffesiynol hefyd
- Llawer o gyfleoedd i ddatblygu menter, a sgiliau gweithio mewn grŵp
- Mae cefnogaeth i fyfyrwyr ar gael ar y safle, sy’n amrywio o gymorth dysgu ar gyfer sgiliau astudio academaidd, i gyngor ariannol a chynghori personol
- Cysylltiadau gyda gwasanaethau gofal a chymorth lleol y gall myfyrwyr eu defnyddio i gael profiad trwy leoliadau gwirfoddol.
Pa fath o fodiwlau fydda i’n eu hastudio?
Yn y flwyddyn gyntaf (Lefel 4) byddwch yn astudio:
- Cyflogadwyedd 1
- Eiriolaeth a Grymuso
- Ymarfer Cynhwysol
- Prif Ddamcaniaethau
- Sgiliau ar gyfer Dysgu
- Personoli Gofal a Chymorth
Yn yr ail flwyddyn (Lefel 5), byddwch yn astudio chwech o’r modiwlau canlynol:
- Cyflogadwyedd 2
- Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion
- Ymchwil mewn Gofal Cymdeithasol
- Archwilio Iechyd Meddwl
- Dilemâu Moesegol mewn Gofal Cymdeithasol
- Cefnogi Gofalwyr
- Cyflwyniad i Droseddeg
- Deall Camddefnyddio Sylweddau
Anogir symud ymlaen i BA (Anrh) mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr a dyma’r dewis mwyaf poblogaidd i’n myfyrwyr. Er nad yw cwblhau yn sicrhau dilyniant, mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs wedi ymgymryd yn llwyddiannus hefyd ag astudio pellach mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio (amrywiol feysydd); Cynhwysiant Cymdeithasol yn ogystal â Graddau Gwyddor Gymdeithasol. Sicrhawyd cyflogaeth mewn llawer o asiantaethau gofal cymdeithasol lleol neu mewn prosiectau cymunedol newydd sy’n datblygu.
Sut i wneud cais:
Rhaid i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais trwy UCAS gan ddefnyddio’r cod cwrs L500 a’r cod sefydliad C22.
Mae gwybodaeth am ffioedd ar gael gan yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae’r asesu drwy aseiniadau. Does dim arholiadau.
Efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol oherwydd gallai ymgeiswyr gael eu derbyn os oes ganddynt brofiad, proffesiynol neu bersonol, o’r sector gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, caiff cymwysterau Mynediad neu gyfwerth ag un Safon Uwch eu hystyried ar gyfer y rheiny sydd heb brofiad. Gwneir pob penderfyniad ar sail unigol yn dilyn cyfweliad anffurfiol
Gwneir penderfyniadau ar sail unigol yn dilyn cyfweliad.
Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddangos DBS boddhaol ac i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru. Y myfyriwr sy’n talu am gwblhau’r DBS. Ar hyn o bryd mae hyn yn £46 ynghyd â £13 y flwyddyn ar gyfer cofrestru.