Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc) y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Lefel 1 (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Mae’r Diploma lefel un mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (Cymru) yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill hyder mewn astudiaeth addysg bellach ac archwilio’r llwybr gofal plant. Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar eich cyfer os ydych yn ystyried gyrfa mewn gofalu am blant.
Manylion y cwrs
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd dysgwyr i mewn am 3 diwrnod yr wythnos i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o weithio yn y sector gofal.
Byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu eich llythrennedd, rhifedd a’ch galluoedd digidol o fewn y cwrs hwn a byddwch yn cwblhau cymhwyster y diploma mewn un flwyddyn.
Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus eich arwain at gwrs lefel dau.
Caiff y cymhwyster ei asesu gan eich tiwtor neu aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Gallai hyn gynnwys tasgau fel dylunio siartiau neu daflenni, gwaith cwrs neu ddulliau fel cwestiynu llafar.
Mae mynediad yn ddibynnol ar gyfweliad dethol. Mae mynediad i fyfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y Maes Cwricwlwm gan ddibynnu ar dystiolaeth ysgrifenedig o astudio/dysgu blaenorol. Dylech fod yn 16 mlwydd oed o leiaf.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.