Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddorau Iechyd) (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu darparu cefnogaeth, cymorth a gofal i unigolion a all fod ag anghenion corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae’n faes eang sy’n cwmpasu rolau a lleoliadau amrywiol.
Bydd y cwrs lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol (egwyddorion a chyd-destunau) yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol i chi a fydd yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y materion cyfredol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y cwrs yn rhannu dealltwriaeth o’r corff dynol a rhai problemau a all ddigwydd pan nad yw systemau’r corff yn gweithredu fel y’u bwriedir.
Mae’r cymhwyster dwy flynedd hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu eu gwybodaeth am y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd yn darparu sail gadarn ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i waith yn y sector gofal. Bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltiad â’r sector dros ddwy flynedd i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach ar lefel gradd, neu i wella eich sgiliau a’ch cymwysterau os hoffech chwilio am waith yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol.
Manylion y cwrs
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddorau Iechyd)
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y cwrs yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth; fodd bynnag, bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â’r sector, gan gynnwys lleoliad gwaith, ymweliadau â’r gweithle, darlithoedd gan siaradwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol. Bydd yr ymgysylltiad hwn â’r sector yn rhoi profiad i chi yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol, wedi’i deilwra tuag at eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.
Mae gan yr holl aelodau staff sy’n cyflwyno’r cwrs hwn brofiad helaeth o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu’r sector gwyddor iechyd; felly, mae nifer o gysylltiadau lleol a chenedlaethol wedi’u meithrin er mwyn cynnig cyfleoedd ychwanegol i bob dysgwr.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ddatblygu a dangos gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel
- Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion
- Hawliau unigolion
- Cefnogi unigolion sydd mewn perygl
- Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd a chlefyd dynol
- Anatomeg a ffisioleg
- Cefnogi iechyd a lles
- Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y gyrfaoedd o fewn y sector iechyd a/neu ofal cymdeithasol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig llu o gyfleoedd i’r rheiny sy’n chwilio am yrfa megis nyrsio, gofal cymdeithasol, bydwreigiaeth, radiograffeg, gwyddorau biofeddygol, gwaith cymdeithasol, seicoleg, y gyfraith, troseddeg, ecoleg a llawer o yrfaoedd eraill.
Yn ddiweddar mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ac i gymhwyso, er enghraifft, fel nyrsys, radiograffyddion, ffisiolegwyr, gwyddonwyr ymchwil, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr gofal iechyd neu wedi mynd ymlaen i weithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd neu i weithio mewn gofal cymdeithasol.
Caiff unedau eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac asesiadau allanol ar ffurf traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, arholiadau, ac ati.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
TGAU: O leiaf 5 TGAU graddau A* - C, gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i Fathemateg fod yn radd E neu uwch.
Bydd gan ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs lefel dau yng Ngholeg Ceredigion ofynion mynediad gwahanol, gan gynnwys cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
DBS Manwl - £44 (yn dibynnu ar y lleoliad gwaith).
Iwnifform (sgrybs Coleg Ceredigion) - tua £15.00
Teithiau ac ymweliadau adrannol achlysurol sy’n gysylltiedig â’r cwrs - cedwir yr holl gostau’n fach iawn lle bo modd.