Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: craidd - Oedolion/Plant a Phobl Ifanc (Cwrs Coleg, Lefel 2)
- Campws Aberystwyth
Gall gweithio gyda phlant fod yn ddewis gyrfa gwerth chweil a boddhaus i unigolion sy’n frwdfrydig dros siapio a meithrin meddyliau ifanc.
Mae’r cymhwyster lefel dau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: craidd, wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru, sy’n gweithio neu’n dymuno gweithio, mewn:
- Lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed
- Gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster lefel un neu rai nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol o’r sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster.
Mae’r cwrs yn elfen ofynnol er mwyn symud ymlaen i’r rhan ymarfer: Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Mae’r cymhwyster yn mapio i gynnwys y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Meysydd allweddol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ffyrdd o weithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n llywio ymarfer effeithiol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth graidd i gefnogi dilyniant i astudio pellach neu gyflogaeth o fewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae gan y cymhwyster hwn graidd o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector hwn. Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudio pellach ar gwrs lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer; lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y llwyddiant cyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.
Caiff y cwrs hwn ei asesu trwy gyfuniad o asesu ffurfiannol ac allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’n llwyddiannus:
Un prawf amlddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST. Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a dyfais addas i gael mynediad i adnoddau ar-lein.
Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng aseswr, dysgwr a rheolwr.
Ffioedd Dysgu seiliedig ar Waith: £115 (mae eithriadau’n berthnasol)