Lefel 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: ymarfer (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Gall gweithio gyda phlant fod yn ddewis gyrfa gwerth chweil a boddhaus i unigolion sy’n frwdfrydig dros siapio a meithrin meddyliau ifanc.
Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer, ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer.
Mae’n yrfa hynod werth chweil sy’n eich galluogi i gael effaith barhaol ar fywydau ifanc a siapio eu datblygiad, cefnogi eu twf, a’u helpu i gyrraedd eu potensial mewn blynyddoedd ffurfiannol hanfodol.
Trwy weithio gyda phlant, rydych nid yn unig yn siapio eu dyfodol ond hefyd yn cyfoethogi eich bywyd eich hun gyda phrofiadau sy’n heriol ac yn rhoi boddhad mawr.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Lefel 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: ymarfer
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith.
Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster.
Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr wrth iddynt arddangos eu bod yn:
- Deall, ac yn cymhwyso mewn ymarfer, yr egwyddorion a gwerthoedd sylfaenol
- Deall, ac yn defnyddio, mewn ymarfer, ddulliau gweithredu plentyn-ganolog
- Hyrwyddo a chefnogi datblygiad plant
- Ymwybodol o bolisïau allweddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau
- Gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Adfyfyrio ar ymarfer i wella’n barhaus
- Cymhwyso ystod o dechnegau datrys problemau
- Defnyddio llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel tri cymwys heb oruchwyliaeth ac, mewn llawer o leoliadau, mewn rôl arwain.
Mae’r cymhwyster yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae’n bosib y bydd dysgwyr hefyd yn dymuno symud ymlaen i:
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- TAG Safon Uwch/TAG Uwch Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rhaid i ddysgwyr fodloni gofynion ychwanegol sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad ar gyfer rhai rolau arwain yn y sector hwn.
Asesir y cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant lefel tri: ymarfer trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol. Rhaid i ddysgwyr gwblhau’n llwyddiannus:
- Set o dasgau sy’n cael eu gosod yn allanol, a’u marcio’n fewnol
- Portffolio o dystiolaeth
- Trafodaeth broffesiynol
Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.
Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng aseswr, dysgwr a rheolwr.