Skip page header and navigation

Diploma Mynediad i Addysg Uwch Gwyddor Iechyd (Cwrs Coleg)

  • Campws Aberystwyth
1 Blwyddyn neu 2 Blwyddyn (rhan amser)

Mae’r cwrs hwn yn cynnig amgylchedd dysgu tra chefnogol gyda staff sydd am eich gweld yn llwyddo i symud ymlaen i gam nesaf eich taith addysgol a phersonol.

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch, yn rhinwedd ei enw, yn gam tuag at wneud cais am le yn y Brifysgol.   

Mae’r cymhwyster lefel tri yn paratoi dysgwyr ar gyfer astudio yn y brifysgol ac yn cael ei gynnig fel cwrs llawn amser.

Mae’r cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth bynciol academaidd berthnasol sydd ei hangen arnoch ar gyfer addysg uwch a’r cyfle i ddatblygu sgiliau astudio sy’n ofynnol er mwyn llwyddo.  Mae’n gwrs sydd wedi’i hen sefydlu ac sy’n cael ei dderbyn yn eang, sy’n gymwys ar gyfer pwyntiau tariff UCAS sy’n gyfwerth â thair Safon Uwch.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn neu 2 Blwyddyn (rhan amser)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs llawn amser dwys a gyflwynir yn y dosbarth sy’n gofyn am ffocws ac ymroddiad i’w gwblhau.    Mae ymgynghorwyr dysgu ar gael yn y coleg i helpu tiwtoriaid gyda datblygu eich sgiliau academaidd a’ch gwybodaeth bynciol.  

Fel rhan o’r cwrs, cewch brofi diwrnodau agored, diwrnodau rhagflas a sesiynau ymarferol yn y brifysgol a sefydliadau lleol perthnasol i’ch helpu i benderfynu pa radd i wneud cais amdani. Mae’r diploma Mynediad i Addysg Uwch yn cael ei addysgu gan staff tra chymwys sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol sy’n defnyddio cysylltiadau â diwydiant i atgyfnerthu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Dysgir ystod o bynciau i ddysgwyr o fewn y gwyddorau iechyd, fel cemeg, bioleg, anatomeg a ffisioleg, seicoleg a phynciau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.  Bydd unedau craidd yn canolbwyntio ar rifedd, sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyflwyno llafar.

n bennaf, mae dysgwyr yn symud ymlaen i astudiaeth addysg uwch mewn meysydd sy’n gysylltiedig â nyrsio. Mae rhai dysgwyr yn defnyddio’r cwrs fel llwyfan dysgu tuag at ennill sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cyflogaeth yn lleol, fodd bynnag mae dros 90% wedi gwneud cais ac wedi cael cynnig lleoedd amodol ar gyfer y graddau canlynol:

Graddau Iechyd:

Nyrsio (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl, Anghenion Dysgu, ac ati), Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Iechyd Galwedigaethol, Therapi Lleferydd, Osteopathi, Therapi a Hylendid Deintyddol, Technolegau Deintyddol, Radiograffeg, Dieteg, Ffisioleg y galon ac Awdioleg.

Graddau eraill: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer, Troseddeg, Seicoleg, Cynhwysiant Ieuenctid a Chymdeithasol, Astudiaethau iechyd, Gwaith cymdeithasol, Gwyddorau Biofeddygol, Biocemeg, Geneteg, Microbioleg, Ecoleg, Datblygiad Plant ac Addysgu.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu eich cynnydd ar y cwrs: gall y rhain gynnwys ysgrifennu traethodau estynedig, arbrofion labordy, tasgau llyfr caeedig o fewn cyfyngiadau amser, trafodaethau, cyflwyniadau ac adolygiadau cymheiriaid.

Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs Mynediad lefel tri yw gradd C mewn TGAU gwyddoniaeth, ac mae gradd C mewn mathemateg a Saesneg yn ddymunol (mae cemeg yn arbennig o bwysig).  

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 19 oed cyn dechrau’r cwrs hwn ym mis Medi.   Cwrs yw hwn i ddysgwyr sy’n oedolion ac sy’n dychwelyd i addysg gyda phrofiad bywyd sylweddol (cyflogaeth, cyfrifoldebau personol a theuluol) ers gadael yr ysgol.  

Mae’r dysgwr diploma Mynediad i Addysg Uwch arferol yn ddysgwr hŷn sy’n chwilio am ddilyniant gyrfaol neu newid gyrfa, sydd angen cymwysterau cyfwerth â Safon Uwch neu dystiolaeth o ddysgu diweddar fel gofynion mynediad i astudio gradd.  

Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfweliad ffurfiol a chwblhau’n llwyddiannus y cwrs cyn-mynediad Lefel 2 a gynhelir ar ddechrau’r tymor ym mis Medi.  Disgwylir bod gan bob myfyriwr bresenoldeb sydd o leiaf 92% bob tymor.

Disgwylir i ddysgwyr wisgo dillad amddiffynnol meddygol (scrubs) tra’n mynychu’r coleg ar gost o tua £15.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau