Dyfarniad L2 mewn cyflwyniad i sgiliau cynghori (Lefel 2)
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol 10-wythnos o hyd i’r rheiny sy’n dymuno dysgu sgiliau cynghori (sgiliau gwrando ac ymateb) mewn rolau helpu.
Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddarganfod mwy am gynghori ac yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am fynd ymlaen i hyfforddi fel cynghorwr.
Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld y gall y cwrs hwn helpu i wella rolau proffesiynol a pherthnasoedd personol presennol, p’un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i hyfforddi ymhellach ai peidio.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynigir y cwrs hwn ar dri champws gwahanol: Pibwrlwyd (Caerfyrddin), Y Graig (Llanelli), Rhydaman ac ar-lein.
Mae’r cwrs yn rhedeg am 10 wythnos am dair awr ac fel arfer caiff ei redeg gyda’r nos o gwmpas 5pm i 8pm neu yn y {prynhawn (1pm i 4pm)} bore o gwmpas 9.30am-12.30pm. Gall yr amser newid ychydig.
Mae’r cwrs yn cwmpasu saith prif faes gan gynnwys cydnabod cyfyngiadau a ffiniau rôl helpu, cyfathrebu empathi, canolbwyntio ar agenda’r sawl sy’n cael ei helpu, cydnabod pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth, rhoi a derbyn adborth yn ogystal ag elfen ymarferol o ddefnyddio sgiliau gwrando ac ymateb.
Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael ar wefan CPCAB.
Argymhellir bod myfyrwyr yn cael y llyfr CPCAB sy’n cyd-fynd â’r cwrs hwn: Counselling skills and Studies (2il Argraffiad) gan Dykes, Kopp a Postings.
Nid yw’r cymhwyster hwn yn arwain yn uniongyrchol at rôl gyflogedig, fodd bynnag, gall wella rôl wirfoddol neu rôl â thâl bresennol neu gynyddu cyflogadwyedd cyffredinol y rheiny sy’n ceisio camu i’r farchnad swyddi.
Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch wneud cais am y radd sylfaen mewn cynghori sy’n eich cymhwyso i fod yn gynghorydd.
Byddwch yn cadw portffolio o’ch dysgu gan gynnwys darnau adfyfyriol ysgrifenedig ac adborth gan gyfoedion a thiwtor am eich ymarfer sgiliau cynghori.
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, mae’r cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig.
Felly, nid yw’r cwrs hwn yn cael ei argymell ar gyfer y rheiny sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu ddryswch seicolegol difrifol.
Mae gan y cwrs hwn ffi o £205.