Skip page header and navigation

Gradd Sylfaen mewn Cynghori (Gradd Sylfaen)

  • Campws Rhydaman
1 flwyddyn / 2 flynedd

Mae cynghori yn yrfa broffesiynol lle mae empathi, tosturi a gwrando gweithredol yn cyfuno i rymuso unigolion ar eu taith o dwf personol a gwella.

Mae’r radd sylfaen yn gwrs dwy flynedd yn llawn amser neu dair blynedd yn rhan-amser, sy’n arwain at gymhwyster mewn cynghori therapiwtig. 
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP). Fel y cyfryw, mae’r cwrs hwn yn cael ei fonitro gan BACP ac mae’n bodloni eu safonau hyfforddiant.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn / 2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd sylfaen wedi’i bwriadu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno cymhwyso fel cynghorwyr.  Bydd angen i chi gwblhau 100-150 o oriau o ymarfer dan oruchwyliaeth mewn lleoliad cynghori addas er mwyn ennill cymhwyster cynghori achrededig BACP.   Rhaid i fwyafrif yr ymarfer cynghori fod yn gynghori wyneb yn wyneb gydag oedolion (o leiaf 51%) neu blant a phobl ifanc (uchafswm o 70%). 

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gael o leiaf 20 awr o therapi personol.

Mae’r radd sylfaen yn cwmpasu pedwar prif faes:

  • Theori cynghori: edrych yn feirniadol ar y syniadau y tu ôl i gynghori.
  • Ymarfer cynghori a materion proffesiynol: materion moesegol craidd, cyfle cyfartal, materion proffesiynol ac ymarfer gan gynnwys gweithio ar-lein
  • Ymarfer clinigol: lleoliad cynghori
  • Datblygiad personol: datblygu hunanymwybyddiaeth a deall ymatebion i eraill

Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r BA mewn cynghori.

Mae myfyrwyr o’r cwrs hwn hefyd wedi symud ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.

Asesu parhaus gan gynnwys:

  • Crynodebau dyddlyfr adfyfyriol
  • Traethodau ar theori
  • Astudiaethau achos 
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol  
  • Recordiadau fideo o waith gyda myfyrwyr eraill a recordiadau sain o waith gyda chleientiaid
  • Portffolio o dystiolaeth o waith lleoliad

Mae’r cwrs hwn yn gofyn am:

  • Dyfarniad lefel dau CPCAB mewn cyflwyniad i sgiliau cynghori (30 awr) neu gyfwerth
  • Fel rheol, bydd myfyrwyr wedi cwblhau hyfforddiant rhagarweiniol o fewn pum mlynedd cyn gwneud cais am y radd sylfaen
  • Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
  • Dau eirda

Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawmâu neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs.   Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a’r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â’r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs

DBS Manwl - £46

Costau goruchwyliaeth (unwaith byddwch yn y lleoliad) £50 - £65 y mis (os na ddarperir yn rhad ac am ddim gan leoliadau)

Therapi personol - 20 sesiwn o leiaf £30 - £40 y sesiwn

Diwrnodau i ffwrdd - dau i dri dros y cwrs am £15 y dydd

Aelodaeth myfyriwr BACP - £86 y flwyddyn

Llyfrau - mae’r llyfrgell yn llawn adnoddau da ac mae’n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy’n ofynnol ar gyfer eich cwrs, ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau