Skip page header and navigation

Mynediad i AU - Gofal Iechyd (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch (AU) yn gymhwyster Lefel 3 sydd wedi’i hen sefydlu ac sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel gradd ac sy’n cael ei dderbyn yn eang gan bob prifysgol. Os hoffech fynd i’r brifysgol ond wedi gadael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, neu os ydych yn meddwl am newid gyrfa, yna gallai cwrs Mynediad i AU fod yn addas i chi.

Gallai’r Diploma Mynediad i Ofal Iechyd fod yn llwybr i yrfa mewn nyrsio a chyrsiau eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd. Os oes gennych ddiddordeb mewn nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol, gwyddor barafeddygol, i enwi ond ychydig, yna mae hwn yn llwybr rhagorol.

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn cynnwys tridiau o ddarlithoedd yn y coleg ac yn cyfuno disgyblaethau’r gwyddorau a mathemateg, ynghyd â’r sgiliau academaidd a chyflwyno sydd eu hangen ar gyfer astudio cyrsiau cysylltiedig ag iechyd yn y brifysgol.

Mae’r cwrs yn gofyn am ymrwymiad i fynychu; y gallu a phenderfyniad i fodloni terfynau amser; ac i astudio’n annibynnol. Bydd angen i chi drefnu eich ymrwymiadau gwaith a theulu o amgylch eich astudiaethau coleg a gofynnir i chi sut y byddwch yn rheoli hyn mewn cyfweliad.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau i ennill y wybodaeth bynciol academaidd berthnasol sydd ei hangen ar gyfer astudiaeth Addysg Uwch yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu sgiliau astudio i’ch helpu i lwyddo. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys traethodau, asesiadau â chyfyngiad amser, cyflwyniadau, arsylwi gwaith ymarferol ac adroddiadau.

I’r myfyrwyr hynny sydd ei angen, mae yna ymgynghorwyr a all helpu gyda cheisiadau am gymorth ariannol neu academaidd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nid yw ennill y Diploma Mynediad yn seiliedig ar basio arholiad ond ar asesu parhaus, ac asesir y cwrs trwy amrywiaeth o aseiniadau.

Mae’r cwrs yn elwa ar ystod o feysydd testun diddorol a addysgir gan staff hynod gymwys, cefnogol a brwdfrydig.

Yn ogystal â’r rhain, mae gwersi ar wahân wedi’u hamserlennu i adeiladu sgiliau cyfathrebu a rhifedd hyd at y safon ofynnol ar gyfer mynediad i brifysgol.

Darperir cefnogaeth, arweiniad ac adborth rheolaidd mewn tiwtorialau personol i annog ac ysgogi myfyrwyr a all fod â diffyg hyder yn yr ystafell ddosbarth i ddechrau.

Mae myfyrwyr Mynediad llwyddiannus o CSG wedi symud ymlaen i astudio cyrsiau israddedig mewn nifer o brifysgolion gan gynnwys graddau nyrsio, bydwreigiaeth, gwyddor barafeddygol, hyfforddiant parafeddyg, a therapi galwedigaethol. 

Yn ddiweddar, mae nifer o’n dysgwyr wedi cychwyn graddau sylfaen ac wedi symud ymlaen i gyrsiau gwyddor feddygol llawn.

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau Lefel 3 gan gynnwys:

  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Gofal Iechyd
  • Ffiseg Iechyd
  • Cemeg
  • Ymddygiadau Proffesiynol
  • Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Y Prosiect Ymchwiliol

Yn ogystal, byddwch yn astudio sgiliau craidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudio yn y brifysgol:

  • Sgiliau academaidd
  • Rhifedd

Sylwch, y gall y rhain newid oherwydd bod y corff dyfarnu ar hyn o bryd yn adolygu manylebau Mynediad i AU.

Mae sesiynau tiwtorial yn cefnogi dysgwyr ac yn cynnig arweiniad gyda’r broses UCAS a sgiliau astudio.

Bydd pob modiwl yn cael ei asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau â chyfyngiad amser
  • Llyfr agored
  • Posteri academaidd
  • Astudiaethau achos
  • Ymarferion ymarferol
  • Adroddiadau

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Gradd C neu’n uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth (mae Bioleg yn arbennig o bwysig), Mathemateg a Saesneg Iaith.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 19 oed neu’n hŷn cyn dechrau’r cwrs hwn ym mis Medi.  

Ymrwymiad i astudio cwrs llawn amser, heriol

Mae agwedd aeddfed, ymroddedig a gwydn yn hanfodol, a disgwylir presenoldeb sydd o leiaf 92% bob tymor gan bob myfyriwr.

Caiff pob ymgeisydd gyfweliad ffurfiol a phrofion llythrennedd a rhifedd sylfaenol.    

Mae angen bod gan ymgeiswyr syniad clir o’r cwrs AU/lefel brifysgol y dymunant wneud cais ar ei gyfer.

Bydd ymgeiswyr heb y cymwysterau perthnasol, neu gymwysterau cyfwerth, yn cael eu cyfeirio at gwrs Lefel 2 priodol er mwyn cyflawni’r sgiliau angenrheidiol i’w galluogi i symud ymlaen i’r Diploma.  Cewch arweiniad a chyngor yn y cyfweliad. 

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau