Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Datblygwyd y cymhwyster hwn ar gyfer unigolion 16+ oed sy’n gweithio, neu sy’n bwriadu gweithio, yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’n gyflwyniad eang i’r diwydiant er mwyn eich cefnogi i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant.
Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion, a phlant a phobl ifanc. Bydd yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o ffyrdd o weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n llywio ymarfer effeithiol yn y sector hwn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n adlewyrchu ystod o wahanol rolau a lleoliadau. Mae’n ofyniad ar gyfer ymarfer a osodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel rhan o’r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod o gwblhau’r cwrs er mwyn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir.
Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd hyn yn cynnwys Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, mathemateg/rhifedd a Saesneg Agored neu TGAU, os nad oes gennych radd C.
Mae’r cynnwys ar gyfer y cymhwyster hwn yn cynnwys y themâu canlynol:
- Egwyddorion a gwerthoedd
- Iechyd a lles
- Ymarfer proffesiynol
- Diogelu
- Iechyd a diogelwch
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen diwtorial
- Adolygiad cynnydd
- Datblygu llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich cefnogi i symud ymlaen i astudiaeth bellach, gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a chymwysterau gofal plant yng Nghymru:
- Lefel dau iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (oedolion)
- Lefel dau iechyd a gofal cymdeithasol: egwyddorion a chyd-destunau (oedolion, plant a phobl ifanc)
- Lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (oedolion)
- Lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (plant a phobl ifanc)
- Tystysgrif a diploma lefel tri mewn iechyd a gofal cymdeithasol: egwyddorion a chyd-destunau
Mae’r cymhwyster hefyd yn cefnogi cyfleoedd i gael gwaith. Fodd bynnag, dylid nodi, yn ychwanegol at y cymhwyster craidd, mae cymhwyster lefel dau neu dri iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer hefyd yn ofyniad ar gyfer ymarfer.
Asesu parhaus gan gynnwys asesiadau mewnol yn seiliedig ar senario ac un prawf amlddewis wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen geirda da arnoch a chaiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei drafod yn y cyfweliad.
Ar gyfer y cwrs lefel 2 bydd angen o leiaf 3 TGAU graddau A* i C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i fathemateg fod yn radd E neu uwch.
Bydd gan ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a geirda cadarnhaol.
DBS Manwl - £44
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.