Skip page header and navigation

Mynediad i AU: Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
Blwyddyn

Mae’r cymhwyster Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs sydd wedi’i deilwra ar gyfer oedolion sy’n dymuno dychwelyd i addysg. Efallai ei bod yn amser i newid gyrfa neu efallai na chawsoch chi gyfle i fynd i’r brifysgol oherwydd ymrwymiadau teuluol. Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn ac yn dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch i astudio’r gwyddorau cymdeithasol neu’r dyniaethau, yna dyma’r cwrs i chi.

DS Mae disgwyl lleiafswm o hyd at 300 awr o oriau gwirfoddoli gan ymgeiswyr i Waith Cymdeithasol - gofynnwch am gyngor gan y brifysgol cyn dechrau’r cwrs. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio neu wirfoddoli am flwyddyn mewn gyrfa berthnasol cyn ymuno â’r cwrs er mwyn casglu’r nifer gofynnol o oriau o brofiad.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
Blwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd astudio’r cwrs Mynediad i’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn rhoi cipolwg i chi ar ystod amrywiol o bynciau priodol a fydd yn ymgorffori’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n ofynnol i lwyddo mewn addysg uwch. Er mwyn llwyddo ar y cwrs Mynediad hwn, mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn gallu rheoli amser yn effeithiol a bod yn barod i astudio.

Mae gan y cwrs hwn ddewislen amrywiol o bynciau Lefel 3 (lefel Safon Uwch) megis Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg, Cymdeithaseg, Prosiect Estynedig. Dysgir y rhain ynghyd â’r unedau craidd Mathemateg a Sgiliau Cyfathrebu a Sgiliau Astudio i’ch helpu i baratoi ar gyfer rheoli’r Diploma, gwneud cais i UCAS/addysg uwch tra’n datblygu’r sgiliau angenrheidiol i lwyddo ar gwrs Mynediad.

Byddai myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i gyrsiau HND neu gyrsiau gradd mewn maes pwnc cysylltiedig.

Mae nifer o lwybrau dilyniant i AU o’r cwrs hwn sy’n cynnwys graddau mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg; Hanes; Athroniaeth, Newyddiaduraeth; y Cyfryngau; Astudiaethau Cymdeithasol; Seicoleg, Cymdeithaseg; Daearyddiaeth; Astudiaethau Amgylcheddol; y Gyfraith, Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Addysg Gynradd, Gwaith Cymdeithasol; Astudiaethau Cynghori, a Throseddeg a llawer mwy.

Mae myfyrwyr Mynediad llwyddiannus o’r cwrs Mynediad yng Ngholeg Sir Gâr wedi mynd ymlaen i astudio gwahanol gyrsiau mewn prifysgolion ledled y DU ac wedi dilyn rhaglenni graddedig mewn Gwaith Cymdeithasol, llywodraeth leol a swyddi Gweinyddol yn y GIG ar ôl eu hastudiaethau Addysg Bellach.

Llwyddodd myfyriwr diweddar i sicrhau lle ym Mhrifysgol King’s College ar gwrs y Cyfryngau a Newyddiaduraeth ar ôl symud ymlaen i’r cwrs Mynediad o’r ddarpariaeth Cyn-Mynediad/SFFS gyda Choleg Sir Gâr.

Er nad yw cyflawni’r Diploma ei hun yn dibynnu ar basio arholiad, bydd pob modiwl yn cael ei asesu trwy gyfuniad o ddulliau:

  • Asesiadau dan Reolaeth (llyfr agored a chaeedig)
  • Paratoi astudiaethau achos
  • Traethodau
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol
  • Dadleuon grŵp
  • Adroddiadau gwerthusol
  • Posteri academaidd

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gael gradd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed cyn dechrau’r cwrs hwn ym mis Medi.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr heb y cymwysterau perthnasol, neu gyfwerth, wneud cwrs SFFS (cyn-Mynediad) yn gyntaf ynghyd â’r pynciau TGAU perthnasol, fel bo’r angen, i sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen i’r llwybr addas. Cynigir y cwrs SFFS yn rhan-amser gyda’r nos, neu yn llawn amser dros dri diwrnod ar gampws y Graig

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau