Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Cymdeithasol L2 Oedolion (Cwrs Coleg)

  • Campws Rhydaman
19 mis

Rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau yw hon lle mae’r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd. 

Bydd y dysgwr yn gyflogedig a bydd yn dod i’r coleg yn rheolaidd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
19 mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd. Byddant yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a byddant yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl y gofyn.  

Bydd rhaid i ddysgwyr sy’n dilyn y cwrs hwn gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys: 

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd  

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer - gydag Oedolion 

Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.

Bydd dysgwyr yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.

Caiff y craidd ei asesu drwy arholiad ar-lein.    

Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol fodd bynnag dylai ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Ffi’r cwrs £196

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau