Skip page header and navigation

Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant - Lefel 3 (Lefel 3)

  • Campws Aberystwyth
2 Flynedd

Gall gweithio gyda phlant fod yn ddewis gyrfa gwerth chweil a boddhaus i unigolion sy’n frwdfrydig dros siapio a meithrin meddyliau ifanc. 

Mae’r cymhwyster lefel tri gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: craidd, ymarfer a theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant gyda’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector fydd yn darparu’r drwydded i chi ymarfer.

Rhennir y rhaglen yn ddwy adran - y craidd a’r elfen theori ac ymarfer dros raglen astudio dwy flynedd. 

Bydd gofyn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith bob yn ail wythnos (dros ddwy flynedd) yn gweithio mewn amgylcheddau gwaith go iawn, sef cyfanswm o 720 awr a drefnir gan aseswr y coleg.  Bydd yr aseswr yn gwneud arsylwadau yn y gweithle i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf gweithle penodol a hefyd bydd angen i chi lunio portffolio ymarfer. 

Cewch y cyfle i wella eich sgiliau Cymraeg ac ennill cymwysterau cymorth cyntaf.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach: 

  • Sydd â diddordeb mewn gweithio mewn rôl gefnogi yn y sector gofal plant 
  • Sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y sector gofal plant. 

Bydd dysgwyr nad ydynt hyd yma wedi cwblhau cymwysterau craidd lefel dau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant, yn cwblhau’r craidd ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn ym mlwyddyn un.

Bydd siaradwyr gwadd ac arbenigwyr hefyd yn dod i’r coleg i siarad â chi am eu profiadau o fewn gwahanol sectorau gan gynnwys gwasanaethau statudol, gwirfoddol a thrydydd parti. Hefyd byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau Cymraeg a diwylliannol er mwyn gwella cyflogadwyedd.

Gall dysgwyr symud ymlaen i raddau sylfaen, cyflogaeth neu brentisiaethau.

Mae’r swyddi canlynol yn feysydd y mae cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen iddynt:

  • Gweithiwr gofal 
  • Gofalwr plant 
  • Ymarferydd meithrinfa 
  • Gweithiwr cyn-ysgol 
  • Gweithiwr plant allan o’r ysgol 
  • Gweithiwr Cylch Meithrin 
  • Cynorthwyydd addysgu 
  • Athro/athrawes ysgol gynradd – yn dilyn dilyniant i’r brifysgol. 

Caiff cymhwyster Craidd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ei gyflwyno yn ystod blwyddyn un. Caiff cymhwyster Theori ac Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ei gyflwyno dros y ddwy flynedd.

Mae’r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae’n adlewyrchu ystod o wahanol rolau ac oedrannau.  

Blwyddyn 1 - Adran Deilliannau dysgu Craidd  Datblygiad (0-19 oed) i gynnwys:

  • Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) 
  • Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad 
  • Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 
  • Diogelu Plant 
  • Iechyd a diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Theori ac Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant i’w gwblhau dros ddwy flynedd

Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu dangos yn ymarferol eu bod yn:

  • Deall, ac yn defnyddio mewn ymarfer, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n tanategu gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.  
  • Deall, ac yn defnyddio mewn ymarfer, dulliau gweithredu plentyn-ganolog i ofal, chwarae a dysgu 
  • Gallu hyrwyddo a chefnogi datblygiad plant trwy eu hymarfer eu hunain. 
  • Gallu gwerthuso ymchwil a theorïau i gefnogi ymarfer  
  • Ymwybodol o bolisïau allweddol yn y sector a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygu a chyflwyno gwasanaeth  
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac ystod o weithwyr proffesiynol 
  • Gallu myfyrio ar ymarfer er mwyn gwella’n barhaus, gallu defnyddio ystod o dechnegau datrys problemau  
  • Gallu defnyddio llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn eu rôl 

Dros y ddwy flynedd caiff dysgwyr y cyfle i gwblhau cymhwyster ychwanegol ochr yn ochr naill ai â:

  • Gwaith Chwarae
  • Bagloriaeth Cymru

Un asesiad amlddewis ym mlwyddyn un (a asesir yn allanol) a phortffolio o weithgareddau ymarferol.

Pum TGAU graddau A*-C i gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf gradd C, a mathemateg o leiaf gradd E.

Yn ogystal bydd yn ofynnol i chi gael gwiriad DBS boddhaol a geirda cymeriad.

Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd (yn Gymraeg a Saesneg hefyd) a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. 

Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr gael gwiriad DBS a phrynu iwnifform lleoliad gwaith.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu, iwnifform lleoliad eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol 

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau