Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 - Oedolion/Plant a Phobl Ifanc (Cwrs Coleg)

  • Campws Rhydaman
10 wythnos

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol 10-wythnos o hyd i’r rheiny sy’n dymuno dysgu sgiliau cynghori (sgiliau gwrando ac ymateb) mewn rolau helpu.  

Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddarganfod mwy am gynghori ac yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am fynd ymlaen i hyfforddi fel cynghorwr.

Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld y gall y cwrs hwn helpu i wella rolau proffesiynol a pherthnasoedd personol presennol, p’un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i hyfforddi ymhellach ai peidio.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
10 wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynigir y cwrs hwn ar dri champws gwahanol:  Pibwrlwyd (Caerfyrddin), Y Graig (Llanelli), Rhydaman ac ar-lein.    

Mae’r cwrs yn rhedeg am 10 wythnos am dair awr ac fel arfer caiff ei redeg gyda’r nos (5pm i 8pm) neu yn yprynhawn (1pm i 4pm)} bore o gwmpas 9.30am-12.30pm. Gall  yr amser newid ychydig.

Mae’r cwrs yn cwmpasu saith prif faes gan gynnwys cydnabod cyfyngiadau a ffiniau rôl helpu, cyfathrebu empathi, canolbwyntio ar agenda’r sawl sy’n cael ei helpu, cydnabod pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth, rhoi a derbyn adborth yn ogystal ag elfen ymarferol o ddefnyddio sgiliau gwrando ac ymateb.   

Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael ar wefan CPCAB.

Argymhellir bod myfyrwyr yn cael y llyfr CPCAB sy’n cyd-fynd â’r cwrs hwn:  Counselling skills and Studies (2il Argraffiad) gan Dykes, Kopp a Postings.

Byddwch yn cadw portffolio o’ch dysgu gan gynnwys darnau adfyfyriol ysgrifenedig ac adborth gan gyfoedion a thiwtor am eich ymarfer sgiliau cynghori.

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, mae’r cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig.  

Felly, nid yw’r cwrs hwn yn cael ei argymell ar gyfer y rheiny sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu ddryswch seicolegol difrifol.

Mae gan y cwrs hwn ffi o £205.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau