Skip page header and navigation

Gofal Cymdeithasol Y Blynyddoedd Cynnar A Gofal Plant Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn yrfa werth chweil a boddhaus sy’n caniatáu i unigolion wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau eraill.

Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n ceisio llwybr i faes  iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant.

Yn ystod y cyfweliad, bydd angen i ddysgwyr nodi pa lwybr fydd eu prif ffocws.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy’n seiliedig yn bennaf ar weithdai, gyda ffocws ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant. Hefyd bydd yna brofiad ar leoliad.

Bydd y cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o unedau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, sy’n cynnwys:

  • Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc Drwy Chwarae
  • Cyflwyniad i Ffordd o Fyw Iach
  • Cyflwyniad i Weithio mewn Partneriaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen Diwtorial
  • Adolygiadau Cynnydd
  • Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
  • Byddwch Actif

Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.

Gallai cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i gwrs lefel dau.

  • Arsylwadau ar leoliad  
  • Asesiadau ysgrifenedig

Bydd enghreifftiau’n cynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau PowerPoint a ffurfiau amrywiol eraill.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 1 feddu ar:

O leiaf 3 TGAU graddau A - G a DBS Manwl clir.

DBS Manwl - £44

Iwnifform - y gost yn fras am hwdi £20, crys polo £12.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau