Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 - Diploma Estynedig (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer gwaith ac astudiaeth bellach mewn sector sgiliau sy’n datblygu’n gyflym.
Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu gwybodaeth eang a dofn sy’n ymwneud â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn darparu sail gadarn ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i’r gweithle.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth greiddiol, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
- Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
- Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Anatomeg a ffisioleg
- Cefnogi iechyd a lles oedolion yng Nghymru
- Hybu hawliau unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
- Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael
- Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Fel rhan o’r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs.
Byddwch yn astudio’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau. Mae’r cymwysterau hyn yn gyfwerth â 3 Safon Uwch.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiad Cynnydd
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Sgiliau Hanfodol Cymru, WEST a datblygu’r iaith Gymraeg.
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gyfwerth â thair Safon Uwch a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch mewn meysydd sy’n cynnwys:
- Gofal cymdeithasol
- Nyrsio
- Seicoleg
- Bydwreigiaeth
- Therapi galwedigaethol
Asesir y cymwysterau trwy gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig allanol ac asesiadau nad ydynt yn arholiadau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 3 feddu ar:
O leiaf 5 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i Fathemateg fod yn radd D neu uwch.
Bydd gan ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys - cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
-
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
DBS Manwl - £45