Diploma Cyntaf mewn Busnes Lefel 2 (Lefel 2)
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gysylltu addysg a’r byd gwaith mewn ffyrdd diddorol, perthnasol ac ymarferol â chwrs sy’n cael ei gydnabod a’i feincnodi’n fyd-eang.
Mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau technegol, ymarferol a throsglwyddadwy sy’n gysylltiedig â gwaith a gwybodaeth benodol i fusnes. Mae datblygu’r sgiliau hyn yn allweddol i ddysgwyr er mwyn symud ymlaen i waith, addysg bellach neu i brentisiaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae gan y cwrs gnewyllyn o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth gydag unedau opsiynol yn adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector. Caiff dysgwyr gyfle i
- Ennill dealltwriaeth a gwybodaeth eang am sector galwedigaethol
- Ymchwilio i feysydd o ddiddordeb penodol
- Datblygu sgiliau hanfodol a phriodoleddau y mae cyflogwyr, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch yn eu gwerthfawrogi
Cynnwys cyfoes sy’n cyd-fynd yn agos ag anghenion cyflogwyr ar gyfer gweithlu medrus yn y dyfodol.
Mae’r Diploma yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
- Menter yn y Byd Busnes
- Cyllid ar gyfer Busnes
- Hyrwyddo Brand
- Egwyddorion Marchnata
- Cynllunio Busnes Bach
- Cyflwyno Rheoli Prosiectau
Ynghyd â thair i chwe uned arbenigol opsiynol
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i brentisiaeth mewn busnes neu gyflogaeth. Bydd myfyrwyr sy’n ennill proffil teilyngdod cyffredinol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer symud ymlaen i’r cwrs Menter ac Entrepreneuriaeth lefel 3.
Caiff y Diploma ei asesu trwy gymysgedd o aseiniadau a osodir yn fewnol gan eich darlithwyr ac arholiadau allanol a osodir gan BTEC.
Mae angen pedwar TGAU graddau D neu uwch arnom, gyda dwy radd C. Rhaid i un C fod mewn Saesneg, mathemateg neu Gymraeg iaith gyntaf. Rhaid i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen o gymhwyster lefel un addas feddu ar broffil Teilyngdod a llwyddo mewn cyfweliad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.