Skip page header and navigation

Tystysgrif ILM mewn Arwain Tîm Lefel 2 (Lefel 2)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr tîm newydd ac uchelgeisiol.  Mae’n rhoi cyflwyniad manwl i rôl a chyfrifoldebau arweinydd tîm.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Sesiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol.  Caiff cyflwyniad y cwrs ei deilwra at anghenion y grŵp.  Mae’n fwyaf tebygol mai dysgu cyfunol fydd yr opsiwn a ffefrir. 

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:

  • Dyfarniad neu Dystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pynciau megis Datblygu eich hun fel Arweinydd Tîm, Gwella Perfformiad y Tîm Gwaith a Chynllunio a Monitro Gwaith.  Mae ystod eang o opsiynau ar gael sy’n cynnwys gwasanaeth cwsmer, datrys problemau, agweddau cyfreithiol, gwneud penderfyniadau ac arferion cyfathrebu.

Bydd yr unigolyn yn elwa o ddysgu sgiliau craidd i arwain tîm yn llwyddiannus, technegau cymhelliant ac ennill yr hyder i fynd i’r afael â materion anodd.   Bydd cyflogwyr yn gweld eu staff yn datblygu eu potensial ac yn dod yn gymwys wrth reoli pobl a pherthnasoedd.

Ymgymerir ag asesiadau ffurfiol fel aseiniadau, cwestiynau ac atebion neu adroddiadau myfyriol ynghyd â thystiolaeth o gynnyrch.

Diddordeb mewn symud i mewn i rôl reoli neu eisoes mewn rôl arwain tîm.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau