Skip page header and navigation

Dyfarniad AAT mewn Cadw Cyfrifon Lefel 1 (Lefel 1)

  • Campws Pibwrlwyd
15 wythnos

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau cyllid neu fusnes.  Gall y cymhwyster hwn gynnig llwybr i gyflogaeth, cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith presennol, neu helpu myfyrwyr i ddilyn astudiaeth bellach gydag AAT.

Gallai hyn fod yn bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn ogystal ag  oedolion sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno newid gyrfa.  Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n dymuno rheoli eu cyfrifon eu hunain.  Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd.

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
15 wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs byr hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno datblygu dealltwriaeth o hanfodion cadw cyfrifon â llaw.  Pwrpas y cwrs byr hwn yw caniatáu i fyfyrwyr sydd â gwahanol brofiadau a chyrchnodau terfynol ymgysylltu ag AAT a chyflawni eu potensial.

Mae’r uned hon yn cyflwyno’r myfyriwr i rôl y ceidwad cyfrifon a thechnegau cadw cyfrifon syml. Mae’n cwmpasu’r broses prynu a gwerthu a’r dogfennau cyffredin a ddefnyddir. Ar gwblhau’r cymhwyster hwn bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Deall rôl y ceidwad cyfrifon
  • Prosesu trafodion cwsmeriaid a chyflenwyr
  • Prosesu derbyniadau a thaliadau

Mae Dyfarniad Lefel 1 AAT mewn Cadw Cyfrifon yn cwmpasu ystod o sgiliau a gwybodaeth ategol berthnasol i gwblhau un uned orfodol:

  • Hanfodion Cadw Cyfrifon

Caiff yr uned hon ei hasesu’n unigol mewn asesiad diwedd cymhwyster.

Bydd y sgiliau a ddatblygir wrth astudio’r cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr chwilio am waith gyda mwy o hyder neu’n eu galluogi i symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf.

Gall y cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth mewn rolau gweinyddol iau neu gefnogol mewn cwmnïau, megis:

  • ceidwad cyfrifon dan hyfforddiant
  • gweinyddwr/cydlynydd bilio/taliadau
  • gweinyddwr cyfrifon
  • gweinyddwr cyfrifon iau
  • ariannydd cynorthwyol

Gall y sgiliau a ddatblygir yn y cymhwyster hwn hefyd ategu’r rheiny a ddatblygir ymhellach yn y cyrsiau canlynol:    Tystysgrif Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon a’r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifyddu

Mae’r asesiad ar gyfer y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.

Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle.

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio’r Dyfarniad AAT mewn Cadw Cyfrifon.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.

Cofrestru AAT - £45

Ffioedd Arholiad/Asesu AAT - £37

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau