Busnes, Marchnata a Chyllid Lefel 3 (Lefel 3)
- Campws Y Graig
I’r rheiny sy’n frwdfrydig ynghylch busnes neu ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain dyma’r cwrs, a ddatblygwyd gan Peter Jones o Dragon’s Den, i chi.
Mae’r cwrs galwedigaethol hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad ym maes busnes neu ddod yn entrepreneur llwyddiannus.
Mae’n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o feysydd busnes i’ch helpu i adnabod cyfle busnes posibl a datblygu eich busnes eich hun. Caiff dysgwyr eu cefnogi gan hybwr entrepreneuraidd y coleg sy’n eich annog i ddatblygu eich syniadau busnes ac yn trefnu ymweliadau â busnesau lleol i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio yn ogystal â darparu digwyddiadau i annog entrepreneuriaeth a chreu ymwybyddiaeth o fyd busnes.
Anogir pob dysgwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau megis cystadlu mewn cystadlaethau fel Bwrsariaeth y Goleudy.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y cymhwyster hwn gan Peter Jones o Dragon’s Den i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol ac i roi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi. Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a’u trafod yn yr ystafell ddosbarth. Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn. Mae cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n gallu arwain i hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu i’r brifysgol.
Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau diploma sylfaen cenedlaethol ym mlwyddyn un a diploma estynedig cenedlaethol mewn menter ac entrepreneuriaeth ym mlwyddyn dau, sy’n cynnwys 12 uned. Astudir ystod o unedau sy’n cynnwys menter ac entrepreneuriaid, datblygu ymgyrch farchnata, cyllid busnes a phersonol, lansio a rhedeg menter, gwneud penderfyniadau busnes ac egwyddorion rheolaeth.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy’n gysylltiedig â busnes a dilyniant i addysg uwch.
Mae symud ymlaen o ddiploma sylfaen cenedlaethol blwyddyn un i ddiploma estynedig blwyddyn dau yn dibynnu ar fyfyrwyr yn dangos presenoldeb da, gwaith o ansawdd cyson, cyfweliad llwyddiannus a geirda tiwtor.
Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys arholiadau, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar: O leiaf pum TGAU graddau A* - C neu gyfwerth sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg, neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn pwnc galwedigaethol perthnasol ar deilyngdod neu uwch yn llwyddiannus.
Bydd angen i’r TGAU Saesneg neu Fathemateg fod ar radd B o leiaf. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.